Theatr y Sherman yn cyhoeddi cynhyrchiad newydd mawreddog o A Midsummer Night’s Dream

Uncategorized @cy
Nod Theatr y Sherman yw dod â llawenydd i gynulleidfaoedd yn ystod y cyfnod heriol hwn gyda chynhyrchiad newydd mawreddog o A Midsummer Night’s Dream gan William Shakespeare (Hydref 14 – 29 2022), wedi’i gyfarwyddo gan Joe Murphy a gydag addasiadau Cymraeg newydd gan Mari Izzard a Nia Morais.

Mae’r Sherman wedi dod a chast Cymreig eithriadol ynghyd ar gyfer A Midsummer Night’s Dream ac yn rhoi wynebau cyfarwydd ochr yn ochr â thalent newydd a chyffrous: Dena Davies, Leah Gaffey, Sion Ifan, Hannah McPake, Lauren Morais, Tom Mumford, Sion Pritchard a Rebecca Wilson.

Bydd dwy o awduron mwyaf cyffrous Cymru, Mari Izzard (HELA) ac Awdur Preswyl y Sherman, Nia Morais (Crafangau / Claws) yn cynnig safbwyntiau newydd a ffres ar y clasur bytholwyrdd hwn gydag addasiadau newydd yn yr iaith Gymraeg. Mae Mari a Nia wedi creu deialog newydd ar gyfer y tylwyth teg a chymeriadau sy’n cael eu swyno gan y tylwyth teg.

Mae cynhyrchiad Joe Murphy yn sicr o fod yn chwareus wrth wyrdroi disgwyliadau o’r campwaith hwn gan gynnwys newidiadau i rôlau rhywedd a rhywioldeb. Bydd A Midsummer Night’s Dream yn cael ei pherfformio yn Saesneg gyda’r addasiadau Cymraeg newydd yn cael eu capsiynu ym mhob perfformiad.

Dywedodd Nia Morais “Dwi mor hapus i fod yn rhan o’r prosiect yma oherwydd dwi wastad wedi moen gweithio ar gynhyrchiad Shakespeare. Mae addasu wedi bod yn her cyffrous a dwi methu aros gweld y sioe!”

Dywedodd Mari Izzard “Ar ôl gweithio ar gynhyrchiad o A Midsummer Night’s Dream yn yr RSC nôl yn 2016, roeddwn i’n gwybod bod fersiwn ddwyieithog hyfryd o’r stori hon rydyn ni i gyd yn ei hadnabod a’i charu yn aros i gael ei harchwilio. Rydw i mor gyffrous i ddod â hyn yn fyw gyda Nia a’r tîm!”

A Midsummer Night’s Dream yw’r diweddaraf, a’r gyntaf ers 2019, yng nghyfres hirsefydlog Theatr y Sherman o gynyrchiadau clasurol yr hydref sy’n cyflwyno addasiadau newydd a beiddgar o ddramâu poblogaidd. Mae’r cynhyrchiad hwn yn addo’r hud y mae cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl gan A Midsummer Night’s Dream gan hefyd gynnig mewnwelediadau newydd a chyfleoedd i feddwl am ein byd ni nawr.

Dywedodd Joe “Ychydig o ddramâu sydd â’r gallu i ddod â chymaint o lawenydd i gynulleidfaoedd ag A Midsummer Night’s Dream; dyna’r ddrama sydd ei hangen arnom ni i gyd ar hyn o bryd. Rwyf wedi fy nghyffroi’n fawr gan y safbwyntiau newydd y mae Mari a Nia wedi’u cyflwyno i’r ddrama ac ni allaf aros i ddechrau gweithio gyda’r cast a’r tîm creadigol cyffrous hwn o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru.”

Bydd Dena Davies yn chwarae Hermia, ac yn perfformio’n broffesiynol ar y llwyfan am y tro cyntaf, a Leah Gaffey (Little Red Riding Hood, Theatr y Sherman; Llyfr Glas Nebo, Frân Wen) yn chwarae rhan Puck. Bydd Sion Ifan (Hidden / Craith, S4C / BBC; Byw Celwydd, S4C) yn chwarae Oberon / Theseus a Hannah McPake (A Christmas Carol, Alice in Wonderland, Theatr y Sherman) yn dychwelyd i’r Sherman i chwarae rôl Peter Quince.

Bydd Lauren Morais (Maryland, Theatr y Sherman; Y Gyfrinach, S4C) yn chwarae Lysanna, ac yn perfformio’n broffesiynol ar y llwyfan am y tro cyntaf. Bydd Tom Mumford (Petula, National Theatre Wales/Theatr Genedlaethol Cymru/August 012; Carmen, Opera Cenedlaethol Cymru) yn ymuno â’r cast i chwarae Demetrius a Sion Pritchard (Petula, NTW/Theatr Gen/August 012; Hidden / Craith, S4C / BBC) fydd yn chwarae rhan Bottom / Egeus. Rebecca Wilson (The Curious Incident of the Dog in the Night-Time, National Theatre/Frantic Assembly – Taith y DU ac Iwerddon) sy’n chwarae rhan Helena.

Bydd aelodau o grŵp theatr y Sherman nad ydynt yn broffesiynol, Sherman Players, yn ymuno â’r cwmni fel y Mechanicals arall. Mae’r cast terfynol i’w gyhoeddi.

Bydd y cynhyrchiad yn cael ei gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Joe Murphy (A Christmas Carol, A Hero of the People, Theatr y Sherman). Bydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol sy’n siarad Cymraeg yn ymuno ag ef, a’u henw i’w gyhoeddi maes o law. Rheolwr Llenyddol Theatr y Sherman, Branwen Davies yw Dramatwrg Cymraeg y cynhyrchiad.

Hefyd yn ymuno â Joe bydd Elin Steele (A Hero of the People, The Merthyr Stigmatist, Theatr y Sherman) fel Cynllunydd ac Eädyth Crawford (Crafangau / Claws, The Merthyr Stigmatist, Sherman Theatre) fel Cyfansoddwr. Ian Barnard (A Christmas Carol, The Merthyr Stigmatist, Theatr y Sherman) fydd y Cynllunydd Sain a bydd Andy Pike (Dance to the Bone, A Christmas Carol, Theatr y Sherman) yn dychwelyd i’r Sherman fel Cynllunydd Goleuo a Thafluniad.

Yn y ddinas batriarchaidd, fe ddywedir wrthych pwy mae hawl gennych ei garu. Mae Hermia yn caru Lysanna ond yn cael ei gorfodi i briodi Demetrius. Tra bod Helena, ffrind Hermia, yn addoli Demetrius yn gyfrinachol. Drwy ddianc i’r coed, daw’r pedwar person ifanc hyn o hyd i fyd heb reolau, lle mae unrhyw beth yn bosibl.

Bydd cynhyrchiad y Sherman o A Midsummer Night’s Dream yn taflu goleuni newydd ar stori ddoniol Shakespeare am chwant, ac yn sicr o fod yn brofiad theatrig llawen sy’n codi calon.

Er mwyn sicrhau bod cost y tocynnau o fewn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl, mae’r Sherman yn cyflwyno cynllun newydd, Rhagddangosiadau Talwch Faint Allwch Chi, a fydd yn caniatáu i gynulleidfaoedd ddewis faint i’w dalu am docynnau.