Theatr y Sherman yn choeddi gwyl i ddathlu ailagor i gynulleidfaoedd

Uncategorized @cy

Yr hydref yma, bydd Theatr y Sherman yn croesawu cynulleidfaoedd drwy ei drysau unwaith eto am y tro cyntaf ers mis Mawrth 2020. I ddathlu ei bod yn ailagor, bydd Theatr y Sherman yn cynnal gŵyl arbennig: Ymlaen â’r Sioe (8 – 30 Hydref).

Gan gymysgu drama, perfformiadau a chomedi, mae Ymlaen â’r Sioe wedi’i chynllunio i roi profiad chwareus, hwyliog a llawen i gynulleidfaoedd wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r theatr. Bydd y perfformiadau’n cael eu cynnal yn theatr Stiwdio y Sherman, a fydd wedi’i gosod ar fformat cabare i greu awyrgylch parti unigryw. Bydd holl berfformiadau’r ŵyl yn rhai byrion fel bod modd i gynulleidfaoedd fwynhau cymaint neu gyn lleied ag yr hoffen nhw – gallan nhw roi cynnig ar un perfformiad yn unig, neu ymgolli mewn sawl sioe. Bydd egwyl rhwng y sioeau yn rhoi cyfle i fynychwyr yr ŵyl gael diod neu damaid i’w fwyta yng Nghaffi Bar y Sherman a sgwrsio gyda ffrindiau.

Meddai Joe Murphy, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman “Rydyn ni’n llawn cyffro o allu agor ein hadeilad hyfryd unwaith eto, o’r diwedd. Roedden ni’n awyddus i wneud y mwyaf o’r profiad, nid yn unig y profiad o berfformiadau byw, ond hefyd o gael ymgynnull unwaith eto mewn modd diogel. Arweiniodd hyn at Ymlaen â’r Sioe: sef gŵyl o berfformiadau byw a nosweithiau gwych i groesawu ein cynulleidfaoedd yn ôl. Fe fyddwch yn cael Golwg Gwahanol ar ddramâu clasurol gan garfan wefreiddiol o artistiaid o Gymru. Fe fydd nosweithiau comedi, a lleisiau cymunedol yn cael eu rhoi yng nghanol y llwyfan. Mae’r holl waith ar ffurf byr, felly gallwch chi, y gynulleidfa, benderfynu sut i ryngweithio â’r adeilad. Gallwch weld un darn 30 munud cyn troi am adre. Neu gallwch aros, cael rhywbeth i’w fwyta ac yfed, a gwylio un arall. Os byddwch chi wedi mwynhau, dewch yn ôl i weld mwy! Mae fformat yr ŵyl yn rhoi’r grym yn nwylo’r gynulleidfa! Rydyn ni’n llawn cyffro o fod yn agor ein drysau unwaith eto, gan gynnig safbwyntiau newydd ar hen straeon, a dathlu grym theatr fyw unwaith eto!”

Mae rhoi llwyfan i awduron newydd a sefydledig o Gymru ac sy’n byw yng Nghymru wrth wraidd gwaith Theatr y Sherman. Mae’n addas felly, wrth i’r theatr ailagor, mai gwaith pedwar llais nodedig o fyd theatr Cymru fydd wrth galon yr ŵyl. Pedair drama fer newydd un-person yw Golwg Gwahanol, na fydd ddim mwy na 30 munud yr un, sy’n cynnig golwg newydd ar ddramâu clasurol a gwaith llenyddol poblogaidd. Cafodd pob sgriptiwr rwydd hynt i ddewis drama neu lyfr maen nhw’n angerddol amdano ac yr oedden nhw am greu eu hymateb theatraidd eu hunain iddo. Arweiniodd hyn at bedwar darn beiddgar o theatr gyfoes. Y pedwar sgriptiwr yw Seiriol Davies, Rahim El Habachi, Lowri Jenkins a Hannah McPake.

Mae The Messenger, sydd wedi’i ysgrifennu ac a fydd yn cael ei berfformio gan Artist Cyswllt y Sherman Seiriol Davies (How To Win Against History) yn dangos cymeriad hollbwysig ond anweledig o Romeo and Juliet yn adrodd eu ochr nhw o’r stori o’r diwedd. Beth sy’n digwydd pan fydd y pethau ddibynadwy rydych chi’n eu cymeryd yn ganiataol yn codi i’ch brathu? Mae drama anarchaidd newydd Seiriol yn llawn ffraethineb wrth herio ffocws heteronormyddol dramâu clasurol.

Mae’r ddrama gan y sgriptiwr, yr actor a’r dawnsiwr bola Rahim El Habachi, sef The Love Thief, yn seiliedig ar Prometheus Bound gan Aeschylus. Yn hytrach na dwyn tân gan y duwiau fel sy’n digwydd yn y stori wreiddiol, mae Prometheus modern Rahim yn dwyn cariad mewn gwaith sy’n edrych ar rywioldeb, hil a realiti bywyd ym Mhrydain yn 2021. Rahim fydd yn perfformio The Love Thief hefyd.

Yn Hamlet is a F&£$boi, mae Evie, sydd wedi hen laru ar Tinder, am roi’r gorau i gariad (a dynion) am byth, ac mae hi’n gwneud penderfyniad mawr. Mae hi’n mynd i ganfod arwr rhamantus wrth y ffynhonnell: llyfrau. Lowri Jenkins (Winners, Theatr Nova) sy’n ysgrifennu ac yn perfformio’r ddrama newydd ddamniol a hynod ddoniol yma sy’n herio’r normau a’r uniongrededd a gaiff ei atgyfnerthu gan ddramâu poblogaidd ac mewn cymdeithas yn ehangach.

Un o’r gweithiau gorau o fyd llenyddol Ewrop, Don Quixote gan Cervantes, yw ysbrydoliaeth Tilting at Windmills gan Hannah McPake (Rodney and the Shrieking Sisterhood, Theatr y Sherman). Mae Tilting at Windmills yn ddrama wresog a theimladwy am sylweddoli beth yw ein cyfyngiadau, derbyn methiant, a goresgyn rhwystrau. Nid yw enw perfformiwr Tilting at Windmills wedi’i gyhoeddi eto.

Bydd perfformiadau Golwg Gwahanol yn cael eu dangos mewn repertoire drwy’r ŵyl. Mae perfformiadau cymunedol yn ganolog i Ymlaen â’r Sioe. Bydd Young Queens, grŵp o awduron a pherfformwyr Somalaidd o Gymru, yn cynnal perfformiadau byw arbennig i ddilyn eu ffilmiau byrion a ryddhaodd Theatr y Sherman ym mis Chwefror eleni. Bydd pedwar o awduron ar ddechrau eu gyrfa a gymerodd ran yng nghynllun Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu Theatr y Sherman, sydd rhwng 15 a 18 oed, yn cyflwyno eu perfformiadau Golwg Gwahanol eu hunain. Ochr yn ochr â’r perfformiadau yma, bydd rhaglen wedi’i churadu’n arbenigol o berfformiadau gan rai o gomedïwyr gorau Prydain.

Mae nifer o sioeau comedi sydd wedi’u hail-drefnu hefyd wrthi’n cael eu trefnu ar gyfer hydref 2021. Ymhlith y perfformiadau sy’n cael eu hail-drefnu ar gyfer gwanwyn 2022 mae Athletico Mince, Matt Forde, Horrible Histories a Jinkx Monsoon a Major Scales.

Mae Nadolig yn y Sherman bob amser yn adeg arbennig o’r flwyddyn, ac yn 2021 bydd yn fwy arbennig nag erioed. Bydd y ddau gynhyrchiad a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer Nadolig 2020 yn digwydd eleni. Bydd A Christmas Carol gan Gary Owen sydd wedi’i chyfarwyddo gan Joe Murphy yn cael ei llwyfannu yn y Prif Dŷ ar gyfer plant 7 oed a hŷn, a bydd Y Coblynnod a’r Crydd / The Elves and the Shoemaker gan Katherine Chandler yn cael ei berfformio yn y Stiwdio i blant rhwng 3 a 6 oed. Bydd yr holl berfformiadau yn nhymhorau’r hydref a Nadolig yn digwydd yn unol â chyngor diweddaraf y Llywodraeth.