THEATR Y SHERMAN WEDI’I HENWEBU YNG NGHATEGORI THEATR Y FLWYDDYN YNG NGWOBRAU Y STAGE 2024

Cyhoeddiadau
Yn dilyn hanner-canmlwyddiant llwyddiannus rydym ni’n dechrau 2024 mewn steil, gydag enwebiad am wobr mawr a sawl clod critigol am ein gwaith yn y gorffennol, ein harweinyddiaeth a’n rhaglen sydd i ddod.

Rydyn ni ar restr fer Gwobr Theatr y Flwyddyn yng ngwobrau mawreddog The Stage 2024, ynghyd â Theatr Almeida, Llundain; Birmingham Rep; Theatr Lyric Hammersmith, Llundain; National Theatre, Llundain a Theatr Watermill, Newbury. Wrth gyhoeddi’r rhestr fer, disgrifiodd The Stage y Sherman fel “a theatre making work that is both firmly rooted in its local community but of a genuinely world-class standard”. Bydd enillydd hwn, un o’r gwobrau sy’n cael eu gwerthfawrogi fwyaf ym myd theatr y DU, yn cael ei gyhoeddi yn y seremoni wobrwyo ddydd Llun 29 Ionawr yn Theatre Royal Drury Lane, Llundain.

Cafwyd cydnabyddiaeth hefyd o arweinyddiaeth y cwmni; y mis hwn fe enwodd The Stage ein Cyfarwyddwr Artistig Joe Murphy a’n Prif Weithredwr Julia Barry yn ei rhestr Stage 100 2024. Enwodd hefyd Rosie Sheehy, a serennodd yng nghynhyrchiad Theatr y Sherman a’r National Theatre, Romeo and Julie y llynedd, fel Seren Newydd.

Mae Romeo a Julie hefyd wedi’i chynnwys yn The Stage’s Top 50 Shows of 2023, yn ogystal â Housemates, ein cyd-gynhyrchiad clodwiw gyda Hijinx.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig Joe Murphy: “Rydym yn falch iawn o ddechrau eleni gyda chymaint o gydnabyddiaeth proffil uchel o’n cyflawniadau diweddar a’n huchelgeisiau sydd i ddod. Gan weithio gyda rhai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru, mae rhaglen eleni yn cyflwyno gweledigaeth o dde Cymru a fydd yn atseinio ymhell.”

Dywedodd y Prif Weithredwr Julia Barry: “Mae’r holl ardystiadau hyn yn glod i’n tîm; y staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a’r gymuned lawrydd sy’n dod â thalent, ymrwymiad ac egni anhygoel i’r theatr hon yn ddyddiol. Dyna ddechrau gwych i 2024.”