Theatr y Sherman a … Doctor Who

Wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 50 eleni, mae cyfres enwog iawn hefyd yn dathlu eu pen-blwydd yn 60 sef Doctor Who! Mae’r ddau ohonnym ni yn rhannu’r un pen-blwydd sef y 23 o Dachwedd. Dros y blynyddoedd diwethaf mae sawl aelod o’r cast a creadigol wedi cerdded trwy ein drws!

Russell T. Davies, prif ysgrifennydd a rhedwr sioe Doctor o 2005-2010 a 2022 i’r presennol. Dechreuodd Russel fel rhan o’n cwrs ol-raddeig yn ganol y 1980au lle aeth o’n ymlaen i gynhyrchu gwaith celf ar gyfer rhai o’n sioeau.

Gareth Armstrong, sydd yn hwyneb eithaf cyfarwydd i gefnogwyr y gyfres fel Count Guiliano yn 1976 y Masque of Mandragora – ar ôl hyn aeth o ymlaen i fod yn cyd-gyfarwyddwr artistig y Sherman yn 1985… a’r un cyntaf oedd The Winter’s Tale oedd yn serennu …

David Collings – sydd hefyd yn gyfarwydd i gefnogwyr y gyfres dros y blynyddoedd gan gynnyws The Robots of Death, Mawdryn Undead a Revenge of the Cybermen. Yn The Winter’s Tale chwaraeodd rhan Leontes.

Peter Halliday sydd yn berfformwyr cyson yn Doctor Who. Oedd o’n serennu mewn No more sitting on the old school bench yn 1989. Yn Doctor Who mae’n enwog am ei rôl yn The Invasion, City of Death a Carnival of Monsters.

Yn y era fodern mae perfformwyr cyson y Sherman Helen Griffin serennu mewn pennod o Rise of the Cybermen/The Age of Steel. Yn chware rôl boblogaidd ymysg cefnogwyr sef Mrs Moore yn Doctor Who, oedd Helen wedi ysgrifennu ac wedi serennu mewn sawl drama yn Theatr y Sherman. Wnaeth Helen yn anffodus, farw yn 2018 ac mae hi’n cael ei golli yn arw.

Yn ddiweddar yn chwarae cath tafod yn foch Milly Liu, oedd Francois Pandolfo wedi ymddangos mewn sawl sioe gan gynnwys The Taming of the Shrew a Alice in Wonderland. Yn Doctor Who, chwaraeodd rôl Quintus mewn pennod 2008 ‘The Fires of Pompeii’ wrth ochr David Tennant, Karen Gillen a Peter Capaldi!

Chwaraeodd Catrin Stewart Elin Tate yn Hero of the People yn Theatr y Sherman yn eithaf diweddar a fydd hi’n un eithaf cyfarwyddwr i gefnogwyr Doctor Who. Oedd Catrin wedi chwarae rhan Jenny Flint yn Doctor Who o 2011-2014 ac yn parhau i chwarae’r rôl yma yn yr anturion sain.