TELERAU AC AMODAU META VS LIFE
Mae Theatr y Sherman yn darparu gwasanaethau tocynnau ac yn gweithredu fel asiant tocynnau ar ran Hijinxs ar gyfer Meta vs Life. Mae Hijinx yn gyfrifol am wasanaeth cwsmeriaid, y profiad blaen tŷ a chyflwyno’r digwyddiad.
Tra bod Theatr y Sherman yn hwyluso prynu a dosbarthau tocynnau ar gyfer Meta vs Life. Hijinx fydd yn cynhelir y digwyddiad yma mewn lleoliad cyfrinachol neu ar lein.
Mae’n rhaid i chi gyflwyno tocyn dilys er mwyn cael mynediad i’r digwyddiad.
Rhaid talu’n llawn am bob tocyn a brynir ar-lein ar yr adeg archebu.
Ni ellir cadw tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn heblaw am archebion grŵp.Gellir cadw lle ar gyfer archebion grŵp, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fanylion llawn. Os na dderbynnir taliad llawn am y tocynnau o fewn y dyddiad y cytunwyd arno, yna caiff yr archeb ei ganslo. Ni dderbynnir archeb nes bod Theatr y Sherman wedi derbyn taliad llawn.
Pan fyddwch yn derbyn eich tocynnau, gwnewch yn siŵr eu bod ar gyfer y digwyddiad, y dyddiad a’r amser cywir, gan nad yw’n bosib bob tro i ni gywiro camgymeriadau ar ddiwrnod y digwyddiad.
Mae pob tocyn, mathau o bris, a gostyngiadau yn amodol ar argaeledd, gellir eu newid a/neu eu tynnu yn ôl heb roi rhybudd o flaen llaw, ac nid ydynt yn gymwys ar gyfer tocynnau sydd eisoes wedi eu prynu. Rydyn ni’n cadw’r hawl i gyflwyno cynigion arbennig ac i newid prisiau heb roi unrhyw rybudd ymlaen llaw. Pris y tocyn yw’r pris a osodwyd pan fyddwn yn derbyn eich archeb.
Mae gan bobl sydd ag anabledd ac sydd angen gofalwr i’w tywys, yr hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim ar gyfer eu gofalwr. Mae gan ddeiliaid cardiau Hynt hawl i docyn yn rhad ac am ddim ar gyfer cynorthwy-ydd personol neu ofalwr. Ewch i’r adran Hygyrchedd ein gwefan i ddarganfod mwy am Hynt neu ffoniwch dîm y Swyddfa Docynnau.
Gwerthir tocynnau ar gyfer defnydd preifat yn unig, ac nid oes gan y daliwr hawl i’w hail-werthu er budd masnachol. Os bydd Theatr y Sherman yn amau fod tocynnau’n cael eu hail-werthu gallwn eu hannilysu a gwrthod mynediad i’r perfformiad.
EICH GWYBODAETH BERSONOL
Pan fyddwch yn archebu tocynnau gan Theatr y Sherman bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw ar system gyfrifiadurol y Swyddfa Docynnau. Wrth archebu tocynnau ‘rydych yn caniatáu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei chadw yn unol â’r Deddfau Diogelu Data. Bydd rhywfaint o’r wybodaeth bersonol hon, eich manylion cyswllt yn benodol, yn cael ei rhannu â Hijinx er mwyn i chi allu derbyn negeseuon gwasanaeth cwsmer hanfodol ac ar gyfer perfformiad contract. Gofynnir i chwi os gellir defnyddio’r wybodaeth yma:
• i roi gwybod i chwi am y cynyrchiadau neu unrhyw ddatblygiadau fydd yn digwydd yn Theatr y Sherman
• i roi gwybod i chwi am y cynyrchiadau neu unrhyw ddatblygiadau fydd yn digwydd yn Hijinx
DANFON TOCYNNAU:
Bydd tocynnau argraffu gartref / e-docynnau yn disodli tocynnau wedi’u hargraffu yn Theatr y Sherman a dim ond trwy ffonio’r Swyddfa Docynnau y gellir ei ailgyhoeddi. I’r rheiny sy’n methu argraffu tocynnau gartref neu ddefnyddio e-docynnau, cysylltwch â Swyddfa Docynnau Theatr y Sherman ar 029 2064 6900.
CYFNEWIDIADAU AC AD-DALIADAU:
Nid ellir cael ad-daliadau ar docynnau oni bai fod y perfformiad yn cael ei ganslo neu ei ail-drefnu neu lle mae newid deunydd i raglen y digwyddiad. Pan fydd perfformiad yn cael ei ganslo neu ei ail-drefnu oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth Hijinx, neu pan fo newid deunydd i raglen y digwyddiad, mae gan prynwr y tocyn hawl i gael ad-daliad sef union gost y pryniant.
Mae newid deunydd yn newid sydd, ym marn resymol Hijinx, yn golygu bydd y digwyddiad yn sylweddol wahanol i’r hyn y gallai prynwr y tocyn fod, o fewn rheswm, wedi ei ddisgwyl. Nid yw defnyddio dirprwy-actorion yn newid deunydd.
Gellir cyfnewid tocynnau ar gyfer perfformiad arall o’r un digwyddiad hyd at 24 awr cyn dyddiad gwreiddiol y perfformiad, yn amodol ar argaeledd.
Derbynnir tocynnau ar gyfer eu hail-werthu, ond bydd Theatr y Sherman yn ceisio ail-werthu’r tocynnau pan fydd perfformiad wedi ei werthu allan yn unig, ac nid yw’n bosib rhoi gwarant y bydd tocynnau’n cael eu hail-werthu.
Gwneir ad-daliadau i’r person sydd wedi prynu’r tocyn yn unig, ac, ble fo’n bosib, gan ddefnyddio’r un dull ag a ddefnyddiwyd i brynu’r tocynnau. Pan fu i’r cwsmer ddefnyddio arian parod i brynu’r tocyn yn wreiddiol, yna mae gofyn i’r cwsmer gasglu ac arwyddo am yr arian fydd yn cael ei ad-dalu o Swyddfa Docynnau Theatr y Sherman. Nid yw ac ni fydd y Telerau ac Amodau hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol fel defnyddiwr.
GWASANAETH CWSMER
Gellir gosod cyfyngiad oed ar rai digwyddiadau, a chyfrifoldeb daliwr y tocyn yw gwneud yn siŵr o hynny cyn prynu’r tocyn. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn pan fyddant y tu mewn i’r awditoriwm.
Nid all hwyrddyfodiaid mynychu a’r perfformiad os maent yn colli dechrau’r daith.
Mae cynhyrchwyr Hijinx gyda’r hawl I ofyn I unrhyw daliwyr tocyn I adael y leoliad ar unrhyw pwynt ar seiliau rhesymol, gan gynnwys am resymau iechyd a diogelwch, trwyddedu, neu lle rydym yn credu y gallai cysur, mwynhad neu ddiogelwch cwsmeriaid eraill gael eu heffeithio a gallant gymryd unrhyw gamau priodol i orfodi’r hawl hon.
Ni chaniateir defnyddio offer ffotograffiaeth na recordio, gan gynnwys camerâu ffonau symudol, yn yr awditoriwm heb ganiatâd.
Mae’r cynhyrchwyr, Hijinx, yn cadw’r hawl iddyn nhw eu hunain neu drydydd parti i wneud gwaith ffilmio cyffredinol a recordio sain yn y sioe neu o’i chwmpas. Mae prynu tocyn yn arwydd o ganiatâd y deiliad i dynnu llun neu recordio sain ac i ymelwa’n fasnachol ar ffilm neu recordiad o’r fath heb unrhyw hawl i daliad. Rhaid i unrhyw ddalwyr tocyn sy’n gwrthwynebu tynnu ei lun neu ei recordio hysbysu’r Rheolwr ar Ddyletswydd cyn i’r perfformiad ddechrau.
Byddwch mor garedig â sicrhau fod pob ffôn symudol, peiriant galw a larymau digidol yn cael eu diffodd cyn i’r perfformiad ddechrau.
Ni chaniateir yfed alcohol ond yn y bariau cyhoeddus a’r mannau awdurdodedig eraill yn unig. Ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw ran o’r adeilad.
Mae’n rhaid i ddeiliaid tocynnau gydymffurfio â’r holl statudau perthnasol, pob cyhoeddiad parthed diogelwch a rheolau’r lleoliad wrth fynychu’r digwyddiad.
Os oes gan ddeiliaid tocynnau unrhyw ofynion neu bryderon neilltuol am effeithiau arbennig y gellir cael eu cynnwys yn y digwyddiad, dylid rhoi gwybod o flaen llaw wrth archebu tocynnau. Gall effeithiau arbennig gynnwys, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i, effeithiau sain, clyweled, effeithiau pyrotechnegol neu effeithiau goleuo.
Dylid gwneud cwynion sy’n berthnasol i unrhyw agwedd o’r perfformiad i’r Rheolwr ar Ddyletswydd yn y lleoliad cyn, yn ystod neu’n syth wedi’r perfformiad.