Yn sgil cyhoeddiad heddiw, dywedodd Azuka “Rwy’n teimlo’n hynod o freintiedig a chyffrous i weithio gyda grŵp o fenywod mor dalentog. Mae’n teimlo fel bod chwaeroliaeth greadigol yn dod at ei gilydd i daflu goleuni pwerus ar y rhan bwysig hon o hanes menywod.”
Mae The Women of Llanrumney yn ddrama hanesyddol ddinistriol sy’n wynebu gorffennol trefedigaethol Cymru ben-ben, ac sydd wedi’i lleoli ym mhlanhigfa siwgr Llanrhymni yn Jamaica.
1765. Mae Cerys a’i mam Annie wedi eu caethiwo gan y teulu Morgan cyfoethog o Gymru. Mae eu dyfodol yn hongian yn y fantol pan fydd Elizabeth Morgan yn wynebu colli ei phlanhigfa. Gan ofni beth allai fod o’i blaen, mae Annie yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau ei safle yn y Tŷ Mawr. Ond yn hwyr neu’n hwyrach, gyda storm o wrthryfel yn tyfu o’i chwmpas, bydd yn rhaid i Annie wynebu’r arswyd a’r trawma o’i chwmpas, gan gynnwys ei rhai hi.
Caiff The Women of Llanrumney ei chyfarwyddo gan Artist Cyswllt Theatr y Sherman Patricia Logue (a gyfarwyddodd Lose Yourself i Theatr y Sherman yn 2019). Y cynllunydd fydd Stella-Jane Odoemelam (Swyn Theatr Genedlaethol Cymru).
Arweinir y cast gan Artist Cyswllt Theatr y Sherman Suzanne Packer (A Hero of the People Theatr y Sherman; Casualty, Doctor Who, The Pembrokeshire Murders), a fydd yn chwarae rhan Annie. Nia Roberts (A Midsummer Night’s Dream, Hedda Gabler Theatr y Sherman; Steel Town Murders, Doctor Who, a Tree on a Hill sydd ar ddod BBC; Yr Amgueddfa S4C) fydd yn cymryd rhan Elizabeth. Caiff gweddill y cast eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.