Mewn partneriaeth â Pleasance Theatre – un o’r prif gynhyrchwyr a lleoliadau yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, sy’n enwog ledled y byd – mae Theatr y Sherman wedi dewis comedi newydd sbon i gynrychioli Cymru ym Mhartneriaethau Cenedlaethol Caeredin eleni.
Wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan Kimberly Hart-Simpson (Coronation Street, Brassic), mae Amnesia yn mynd i’r afael â phynciau trwm gyda chyffyrddiad ysgafn a chomig; dathliad di-flewyn-ar-dafod o fywydau trefi bach arfordirol wedi’u heffeithio gan ddementia. Fe’i cyfarwyddir gan Kate Wasserberg mewn cydweithrediad â Theatr Clwyd.
Fel o’r blaen, mae Theatr y Sherman yn un o garfan o theatrau nodedig gan gynnwys Leicester Curve, Theatre Royal Plymouth, Theatr Gŵyl Pitlochry a The Lyric Belfast, sydd i gyd yn cymryd rhan ym Mhartneriaeth Genedlaethol Caeredin y Pleasance. Mae’r fenter yn gweld y Pleasance yn gweithio gyda theatrau partner ledled y DU i nodi a chefnogi artistiaid a chwmnïau eithriadol sy’n lleol iddynt sydd eisiau mynd â gwaith i’r Ŵyl Ymylol. Mae pob partner yn dŷ cynhyrchu cenedlaethol blaenllaw, gydag ymrwymiad i gefnogi a datblygu artistiaid newydd.
Kelly, a dementia carer in Rhyl (and daughter of two Tom Jones tribute acts), is brilliant at her job. Whether it’s Edna, the serial biter, or Astrid who thinks her Nana is a bin, Kelly knows exactly what she’s doing.
Proudly raised on ClubLand, waltzers and summer’s snogging scousers, she’s furious upon discovering her best friend is leaving for a city with a Pret. Concealing her own life-altering news, she spirals out of control and risks losing everything.
Dywedodd Prif Weithredwr Theatr y Sherman, Julia Barry: “Mae Gŵyl Ymylol Caeredin yn parhau i fod yn llwyfan hynod werthfawr i artistiaid arddangos eu gwaith. Mae gweithio gyda’r Pleasance i gefnogi cynhyrchiad o Gymru i gymryd ei lle yn yr Ŵyl Ymylol yn un o uchafbwyntiau calendr y Sherman, ac rydym yn falch iawn o helpu i rannu drama ddoniol a thyner Kimberly gyda chynulleidfaoedd Caeredin eleni.”
Dywedodd Kimberly: “Rwy’n hynod falch o fod yn Gymraes ac o wneud gwaith sy’n rhoi fy man geni ar y map yn yr ŵyl ymylol fwyaf yn y byd.
“Mae’r darn hwn wedi bod gyda mi ers blynyddoedd lawer, ym mêr fy esgyrn, ac yma y bydd am byth. Nid yn unig mae’r stori’n taflu goleuni ar y rhai sy’n byw gyda dementia ond mae’n adlewyrchu’n gadarnhaol y gwaith caled a’r ymroddiad gan ofalwyr a chymunedau sy’n dod ynghyd â chynhesrwydd, cariad ac ysbryd cyson.”
Dyma’r bumed flwyddyn yn olynol y cafodd Theatr y Sherman y dasg o ddewis cynhyrchiad i gynrychioli Cymru yn rhaglen Partneriaethau Cenedlaethol Caeredin. Mae pecyn cymorth y cynnig buddugol yn cynnwys cyllid tuag at gostau cyflwyno sioe yn y Gŵyl Ymylol; cymorth cynhwysfawr ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a hysbysebu; lle ymarfer a datblygu a chyfres o berfformiadau rhagolwg yn Theatr y Sherman; ynghyd â mentora a chyngor gan Theatrau’r Sherman a Pleasance a chymorth i feithrin perthnasoedd teithiol newydd.
Y llynedd, cefnogodd Sherman sioe’r artist amlddisgyblaethol Leila Navabi, Relay; sioe gerdd pync a adroddodd stori wir sut y gwnaeth Leila eni babi gartref gyda’i phartner, ffrind gorau fel y rhoddwr sberm a’i gariad yn bloeddio o’r cyrion. Cafodd ei henwebu am Wobr Rhagoriaeth Ymylol Brighton, ei chynnwys yn rhestr The Guardian ar y 10 Sioe Orau i’w gweld yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2025 ac mae’n dal i fod ar daith ledled y DU ym mis Mai 2026.
Yn 2024, cefnogodd Sherman Polly & Esther, cabaret drag anhrefnus camp, a ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan y ddeuawd drag eiconig o Gymru, Polly Amorous ac Esther Parade. Yn dilyn ei chyfnod hynod lwyddiannus yng Nghaeredin, perfformiwyd y sioe yng Ngŵyl Ymylol Adelaide rhwng Chwefror a Mawrth 2025.
Yn 2023, cefnogodd y Sherman CHOO CHOO! (Or… Have You Ever Thought About ****** **** *****? (Cos I Have)). Aeth y sioe – cipolwg gwirion a swrrealaidd ar anhwylder obsesiynol-gymhellol – ymlaen i ennill Gwobr Fringe First a Gwobr Fringe Sefydliad Iechyd Meddwl 2023. Yna fe’i perfformiwyd yng Nghanolfan Southbank, fel rhan o ŵyl Unlimited 2024 y Ganolfan.
Yn 2022, gyda chefnogaeth The Other Room, cefnogodd y Sherman An Audience With Milly-Liu gan difficult|stage. Roedd sioe drag un-dyn François Pandolfo yn llwyddiant gyda chynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd, gan ennill y Wobr Dalent Newydd David Johnson gyntaf erioed.
Queenie Miller ar gyfer Hat Trick Productions, Theatr y Sherman a’r Pleasance mewn cydweithrediad ag United Agents yn cyflwyno
Amnesia
Ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan Kimberly Hart-Simpson
Cyfarwyddwyd gan Kate Wasserberg mewn cydweithrediad â Theatr Clwyd
Rhagddangosiadau: Theatr y Sherman, Caerdydd, 16-18 Gorffennaf 2026, 8pm
Pleasance Courtyard (Bunker Two), Caeredin, 5-31 Awst 2026, 4.25pm (60 munud)