Mireinia dy Grefft

Rhannwch
Ble bynnag yr ydych ar eich taith ysgrifennu dramâu, datblygwch eich sgiliau gyda Hone Your Craft – rhaglen newydd gan Adran Lenyddol arbenigol y Sherman.

Mae’r cwrs wythnosol hwn wedi’i gynllunio i uwchsgilio a hysbysu awduron ym mhob cam o’u gyrfaoedd, gan gwmpasu pob cam o’r broses ysgrifennu dramâu o’ch syniad cychwynnol hyd at y noson agoriadol. Dros gyfnod o ddau fis bydd y sesiynau hybrid anffurfiol a disgyrsiol hyn llawn dop ag ymarferion a dulliau sy’n cynnig hyfforddiant a chyngor i awduron ar draws maes llafur eang.

Cyflwynir y cwrs yn Saesneg, ond mae’n agored i ysgrifenwyr sy’n gweithio drwy gyfrwng unrhyw iaith.

I bwy mae hwn?

Mae Hone Your Craft ar gyfer unrhyw un sydd wedi ymrwymo i ddod yn ddramodydd neu sydd eisoes yn ddramodydd.

Ble caiff ei gynnal?

Mae hwn yn gwrs hybrid – felly gallwch ymuno â ni yn y Sherman neu ar-lein. Ble bynnag sy’n gweithio i chi.

Beth fydd yn ei gwmpasu?

Dyma gipolwg o’r sesiynau:

  1. Having an idea
  2. Thinking about audience
  3. Structure and Character
  4. Structure and Character
  5. Writing your First Draft
  6. Rewriting your play and becoming your own dramaturg
  7. Pitching
  8. Being a Playwright

Dewch i’r sesiynau gyda syniad o ddrama / syniad yr hoffech weithio arni.

Beth ydw i’n ei wneud nesaf?

Mae Hone Your Craft yn dechrau 23 Medi ac yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 23 am 6pm (ac eithrio 21 a 28 Hydref). Mae lleoedd am ddim ond yn gyfyngedig. Darganfyddwch fwy a chofrestru yma erbyn 12 Medi 2025: https://forms.microsoft.com/e/i353frhsAD

Ariennir Adran Lenyddol Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Bad Wolf.