Love Letters To Cardiff

Gwrandewch ar ysgrifennu hardd gan aelodau Sherman 5.

Mae Llythyrau Caru yn gasgliad o lythyrau hyfryd i Gaerdydd, a ysgrifennwyd gan rai o bobl hŷn y ddinas.

Yn Hydref 2020, bu rhaglen Theatr y Sherman, Sherman 5 yn gweithio gyda Gŵyl Gwanwyn Age Cymru i gasglu’r llythyrau hyn fel rhan o dymor Theatr y Sherman, Calon Caerdydd.

Roeddem wrth ein boddau yn derbyn a darllen sylwadau mor hyfryd a thwymgalon, oedd yn llawn atgofion annwyl. Rydyn ni wedi dewis ychydig o’r nifer y gwnaethom eu derbyn i greu darlleniadau arbennig iawn.

Dramatwrg a Chyfarwyddwr Bridget Keehan
Awduron Judi Ashley, Helen Byrne, Ray Kemp, Peter Kingsbury, Margaret Le Grice, Marie Makepeace, Roger Lionel Martin B.Sc, Patricia Stowell, Jane a Violet.
Dylunydd / Golygydd Sain Chris Young
Cast Julie Barclay, Siwan Morris, Dean Rehman

Love Letters To Cardiff