Encil Sgiliau Sgriptio

Mae'r cyfnod ymgeisio nawr ar ben

Mae Llenyddiaeth Cymru a Theatr y Sherman yn falch o gynnig cyfle datblygu rhad ac am ddim i ddramodwyr sy’n cael eu tangynrychioli yn y byd theatr a llenyddiaeth yng Nghymru.

Dyddiadau’r cwrs: Dydd Llun 13 – dydd Gwener 17 Mehefin 2022
Tiwtoriaid: Branwen Davies, Alice Eklund
Siaradwyr gwadd: Sita Thomas ac Alistair Wilkinson
Dyddiad cau i ymgeisio: 5.00yh dydd Llun 2 Mai

Ymunwch â Branwen Davies ag Alice Eklund, Rheolwr Llenyddol a Chydymaith Llenyddol adran lenyddol Theatr y Sherman, am encil i ddatblygu eich sgiliau sgriptio i’r llwyfan yn Nhŷ Newydd, canolfan ysgrifennu genedlaethol Llenyddiaeth Cymru. Bydd yr encil hon i ddramodwyr o Gymru yn cael ei chynnig yn rhad ac am ddim i ddeg awdur drwy broses ymgeisio. Byddwn yn edrych am ddramodwyr lled-newydd sydd â nodweddion sy’n cael eu tangynrychioli yn y byd llenyddiaeth a drama i ymuno â ni, ac yn benodol, byddwn yn edrych am awduron o Gymunedau Ethnig Amrywiol ac/neu awduron anabl.

Beth allwch chi ei ddisgwyl

Yn ystod yr encil, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai grŵp i ddatblygu eich crefft. Byddwn yn edrych ar ddatblygu eich syniadau gwreiddiol, a’u gosod ym myd y ddrama. Byddwn yn edrych ar sut i greu cymeriadau a deialog credadwy, creu strwythur i gynnal y stori, ac yn archwilio – ac o bosib yn gwthio – ffiniau y ddrama lwyfan. Yn ystod yr wythnos, bydd pob awdur yn derbyn cyfarfod un-i-un gyda’r tiwtoriaid a gyda staff Llenyddiaeth Cymru i drafod eich datblygiad fel awdur.

Bydd cyfle i wrando ar arbenigwyr gwadd o gefndiroedd amrywiol yn siarad am eu profiadau ac yn cynnig cyngor, a byddwn yn darllen darnau o sgriptiau, yn rhannu gwaith ac yn gwylio clipiau o ddramâu perthnasol i roi cyd-destun i’n gwaith. Bydd digon o amser i ysgrifennu yn ogystal â mwynhau cwmni eich cyd-ddramodwyr, a datblygu rhwydwaith newydd o awduron yn awyrgylch groesawgar, gefnogol ac ysbrydoledig Tŷ Newydd. Bydd pawb yn cael eu hannog i gyrraedd gyda syniad bras, a byddwch yn gadael ar ddiwedd yr wythnos gyda thudalennau cyntaf eich drama – a chynllun strwythurol pendant i’w ddatblygu yn eich amser eich hun.

Byddwn yn cadw mewn cysylltiad ar ôl y cwrs, ac yn annog y rhwydwaith i gwrdd arlein yn achlysurol i rannu cynnydd a syniadau, ac i ddatrys problemau. Bydd yr encil yn cael ei chynnal drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf, ond mae croeso mawr i ddramodwyr sydd yn awyddus i ddatblygu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg – does dim angen iaith na gramadeg perffaith! Mae’r tiwtoriaid yn ddwyieithog, ac felly bydd modd cynnal cyfarfodydd un-i-un drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae posibiliad i greu gwaith dwyieithog hefyd.

Mae’r cwrs hwn wedi ei greu yn arbennig i awduron a darpar awduron sydd yn cael eu tangynrychioli yn y byd theatr a llenyddiaeth yng Nghymru. Drwy ddarparu cyfle arbennig i awduron o Gymunedau Ethnig Amrywiol, awduron sydd yn byw ag anableddau neu salwch, awduron LHDTCA+, awduron sydd yn dod o gefndir incwm isel, neu awduron sy’n cael eu tangynrychioli mewn modd arall, y gobaith yw y bydd y profiadau bywyd yma yn cael gwell cynrychiolaeth yn y dyfodol – gan sicrhau fod ein theatr a’n llenyddiaeth yn berthnasol i bawb.

Y Tiwtoriaid

Mae Branwen Davies yn ddramodydd, dramatwrg a chyfarwyddwr sydd yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Hi yw Rheolwr Llenyddol Theatr y Sherman, ac mae’n arwain ar gyrsiau ysgrifennu a datblygu dramodwyr y theatr. Mae hi hefyd wedi gweithio fel darlithydd drama a pherfformio mewn sawl prifysgol yng Nghymru. Mae Branwen yn aelod o Dirty Protest ac yn un o sefydlwyr y cwmni theatr Os Nad Nawr. Mae Branwen wedi cydweithio gyda nifer o gwmnïau yng Nghymru gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, Papertrail, Illumine, Cwmni’r Frân Wen, Dirty Protest, Blas Pontio, Theatr y Sherman a Criw Brwd.

Artist aml-gyfrwng o Gaerdydd yw Alice Eklund. Mae’n bennaf yn gweithio fel cyfarwyddwr theatr a dramatwrg ar weithiau newydd gan fenywod ar gyfer dramâu a sioeau cerdd. Mae’n gweithio fel Cydymaith Llenyddol i Theatr y Sherman. Fel artist cwîar, dwyieithog sydd yn byw ag anabledd, mae ganddi ddiddordeb mewn datblygu darnau sydd yn gwthio ffiniau theatr iaith Gymraeg. Dros y blynyddoedd, mae Alice wedi gweithio â nifer o gwmnïoedd yn cynnwys National Theatre Wales, Canolfan y Mileniwm, Theatr y Sherman, Theatre Uncut, Goodspeed a The Other Room. Alice yw sefydlydd BolSHE, grŵp creadigol a gaiff ei arwain gan fenywod, sydd yn dathlu a rhoi sylw i leisiau menywod creadigol Cymreig.

Sut ydw i’n gwneud cais?

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 mlwydd oed ac yn byw yng Nghymru. Mae’n rhaid i chi fod ar gael i ddod ar yr encil rhwng Dydd Llun 13 – dydd Gwener 17 Mehefin 2022 er mwyn ymgeisio. Rydym yn benodol chwilio am awduron o Gymunedau Ethnig Amrywiol, ac/neu awduron anabl, neu sydd yn byw â salwch (meddylion neu gorfforol), i ymgeisio am le ar yr encil hwn. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan awduron sydd yn cael eu tangynrychioli yn y byd theatr a llenyddiaeth yng Nghymru am resymau gwahanol, a byddwn yn eich gwahodd i esbonio pam eich bod yn ymgeisio yn eich geiriau eich hun.

Os gwelwch yn dda, islwythwch y ddogfen Cwestiynau Cyffredin i ddarllen mwy am y cwrs. Yna, i ymgeisio, llenwch y Ffurflen Gais yma. Yn ogystal â gofyn am eich manylion personol, bydd y ffurflen yn gofyn i chi esbonio pam eich bod eisiau ymgeisio, ac yn gofyn i chi ddarparu enghraifft o waith sgript – neu syniad am sgript. Mae fersiynau print bras a fersiwn dyslecsia-gyfeillgar ar gael i’w lawrlwytho isod.

Os oes angen cymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol. Byddwn yn cysylltu â’r ymgeiswyr i gyd cyn dydd Gwener 13 Mai.