Arweinwyr Dyfodol Cymru: Rhaglen Cyfarwyddwyr Cyswllt Carne
Bydd y rhaglen Darpar Arweinwyr Cymru – Cyfarwyddwr Cyswllt Carne yn mynd i’r afael â bwlch cydnabyddedig mewn llwybrau at arweinyddiaeth i gyfarwyddwyr theatr yng Nghymru.
Ei nod yw helpu i adeiladu piblinell o Gyfarwyddwyr Artistig sydd â’u gwreiddiau yng Nghymru, gan sicrhau pan fydd swyddi arwain yn codi, fod gan sefydliadau gyfarwyddwyr medrus yng Nghymru sy’n barod i gamu iddynt.
Bydd y rhaglen aml-flwyddyn hon yn cynnig tair swydd Cyfarwyddwr Cyswllt llawn amser am 18 mis dros gyfnod o bum mlynedd. Bydd y Cyfarwyddwyr Cyswllt wedi’u gwreiddio yn y Sherman ac yn cael profiad ym maes rhaglennu, strategaeth sefydliadol, codi arian, partneriaethau, llywodraethu a rheoli staff. Mae’r ceisiadau’n agor heddiw drwy wefan Theatr y Sherman.
- O gyfarwyddo theatr i arwain sefydliadau
- Mynd i’r afael â’r bwlch mewn llwybrau arweinyddiaeth i gyfarwyddwyr theatr
- Rhaglen arweinyddiaeth o bwys i gyfarwyddwyr theatr yng Nghymru
- Tri chyfle Cyfarwyddwr Cyswllt 18-mis, gyda thâl, dros 5 mlynedd
Gyda chefnogaeth Philip Carne MBE a Christine Carne.