Bydd diogelu dyfodol canon theatrig Cymru yn ffocws allweddol i weithgarwch llenyddol y Sherman.
Bydd Theatr y Sherman yn gweithio i gyflawni hyn drwy ddwy raglen sydd wedi’u cynllunio i feithrin gyrfaoedd awduron proffesiynol: Awduron Preswyl a Canon Cymraeg.
Bydd y Sherman yn lansio rhaglen Awduron Preswyl newydd mewn partneriaeth â Stiwdio Clwyd yn 2027.
Mae Canon Cymraeg yn anelu i roi hyfforddiant a mynediad i awduron iaith-Gymraeg sydd ar ddechrau eu gyrfa at gymorth pwrpasol i ddatblygu syniad am waith. Nod y rhaglen ymlyniad â thâl, 12-mis hon yw i artistiaid adael gyda chynllun cadarn i gynnig eu gwaith i’r Sherman a’i phartneriaid ar y rhaglen. Mae’r ceisiadau’n agor heddiw drwy wefan Theatr y Sherman.
- Rhaglen newydd bwysig i ysgrifenwyr ar ddechrau gyrfa sy’n gweithio drwy’r Gymraeg
- Hyfforddiant am ddim yn eich iaith chi
- Mynediad at gefnogaeth bwrpasol i ddatblygu syniad ar gyfer y llwyfan
- Gadewch y rhaglen gyda syniad datblygedig sy’n barod i’w rannu
- Sesiynau sylw gyda Theatr y Sherman, Frân Wen a Theatr Cymru
- Ymrwymiad 12 mis o hyd gyda thâl
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 8 Hydref
Gwnaed Canon Cymraeg yn bosib diolch i grant gan Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac fe’i cyflwynir mewn partneriaeth â Frân Wen a Theatr Cymru.