Baner Iachau

Rhannwch
Crëwyd Ein Baner Iachau ar Fehefin 20fed, 2022 gan Aelodau Sherman 5, a oedd yn cynnwys grwpiau o Ganolfan Gymunedol Cathays a’n sesiynau Straeon Noddfa.

Mae thema fotanegol y faner wedi’i ysbrydoli gan thema Wythnos Ffoaduriaid, sef Iachau.

Mae’r holl blanhigion a ddarlunnir yn gysylltiedig a iachâd, heddwch a noddfa ar draws gwahanol ddiwylliannau ledled y byd. Maent yn cynnwys Aloe Vera, Milddail, Meddyglyn, Olewydd, Uchelwydd, Grug Gwyn a Thiwlip. Mae’r gwenau yn symbol o groeso ac ysbryd agored. Ac yn olaf, mae cyfranwyr wedi ychwanegu geiriau sy’n estyn croeso, yn cyfarch, yn iachâu, ac yn golygu bod mewn heddwch â chi’ch hun mewn gwahanol ieithoedd.

Fe’i cynlluniwyd gan yr artist Jessica Akerman sy’n gweithio gyda phatrymau, lliwiau a deunyddiau amrywiol i archwilio hanes cymdeithas a lleoedd. Mae’n gweithio gyda cherfluniau, gosodiadau, ymarfer cymdeithasol a pherfformiad, ac mae ei gwaith yn aml yn ymateb i safle ac wedi’i siapio gan bensaernïaeth, lleoedd a’u trigolion.