The Cherry Orchard

Playtexts

The Cherry Orchard

£9.99

Item added to basket

Add to basket failed. Please reload the page and try again

Pob pris yn cynnwys TAW
Gan Gary Owen. Mae Bloumfield yn eistedd yn llygad yr haul ar arfordir de Sir Benfro; hen blasty simsan a di-drefn lle magodd Rainey ei phlant, wedi'i amgylchynu gan draethau euraidd a pherllannau gwyrdd toreithiog. Ond wedi marwolaeth ei hanwyl fab a'i gwr, fe wnaeth Rainey ffoi i Lundain, gan gefnu ar yr hyn oedd yn weddill o'i theulu. Nawr, gyda’r banc yn bygwth adfeddiannu, mae merched Rainey yn ei llusgo’n ôl i Bloumfield. Bydd yn rhaid i Rainey wynebu hen ysbrydion - a'i merched cynddeiriog - neu golli popeth. Yn y fersiwn newydd hon o gampwaith Chekhov mae Gary Owen yn ail-leoli’r digwyddiadau o Rwsia cyn y chwyldro, i gyfnod arall oedd ar drothwy newid cymdeithasol enfawr – Sir Benfro’r 80au cynnar ar ddechrau cyfundrefn Margaret Thatcher. Perfformiwyd The Cherry Orchard gan Gary Owen am y tro cyntaf yn Theatr y Sherman ym mis Hydref 2017.