Sgript The Women of Llanrumney

NewyddSgript

Sgript The Women of Llanrumney

£7.00

Item added to basket

Add to basket failed. Please reload the page and try again

Pob pris yn cynnwys TAW
Daw gorffennol trefedigaethol Cymru wyneb yn wyneb â’i hun yn nrama hanesyddol ddifrodus Azuka Oforka. Wedi’i gosod yng nghyfnod trefedigaethol Jamaica yn y 18fed ganrif, mae drama danbaid newydd Azuka Oforka yn archwiliad pwerus o brofiad menywod yn ystod caethwasiaeth – rheiny ag elwodd ohono, rheiny a brofodd ei greulondeb, a’r rheiny a frwydrodd i’w ddinistrio. Mae The Women of Llanrumney yn rhoi Cymru a’i rhan yng nghaethwasiaeth yng nghanol y llwyfan; gan oleuo pennod gudd yn hanes Cymru. Yr hanes Planhigfa Llanrumney. Plwyf Saint Mary, Jamaica. 1765. Mae Annie a Cerys wedi eu caethiwo gan y teulu Morgan o Gymru. Mae eu dyfodol yn y fantol pan fydd Elizabeth Morgan yn wynebu colli ei phlanhigfa. Gan ofni beth all fod o’i blaen, mae Annie yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau ei safle yn y Tŷ Mawr. Ond hwyr neu’n hwyrach, gyda storm o wrthryfel yn tyfu o’i chwmpas, bydd yn rhaid i Annie wynebu’r arswyd a’r trawma o’i chwmpas, gan gynnwys ei rhai hi. Cyhoeddir The Women of Llanrumney Azuka Oforka fel llais newydd mawreddog yn y theatr yng Nghymru. Dyma ddrama danbaid newydd sy’n rhaid ei gwylio gan unrhyw un sy’n chwilio am ddrama bwerus a difrifol.