NI ŴYR LLAWER AM Y STORI HON O GAERDYDD SYDD AG ARWYDDOCÂD BYD-EANG – BYDD THEATR Y SHERMAN A HIJINX YN DOD A HI I’R LLWYFAN

Cyhoeddiadau
Mae blwyddyn pen-blwydd Theatr y Sherman yn 50 yn parhau gyda dau gynhyrchiad twym galon sy’n adrodd straeon lleol sydd a neges wirioneddol fyd-eang: Housemates gan Tim Green, cyd-gynhyrchiad rhwng y Sherman a Hijinx, a chynhyrchiad cymunedol Love, Cardiff: 50 years of your stories.

Mae Housemates (6 -14 Hydref), drama newydd gan Tim Green, yn adrodd stori ryfeddol a phwysig am y chwyldro yn y byd gofal a ddechreuodd dafliad carreg o’r Sherman yn y flwyddyn ar ôl i’r theatr agor yn ei drysau am y tro cyntaf. Dyma stori am y llety byw â chymorth cyntaf yn y DU, a’r bobl a wnaeth hyn yn bosibl. Mae’r ddrama newydd bwysig hon yn adrodd y stori drwy lens cyfeillgarwch rhwng Jim Mansell ac Alan Duncan. Roedd Jim yn wirfoddolwr ac yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd Alan yn ddyn ifanc wedi’i eni â syndrom Down ac wedi byw fel preswylydd yn Ysbyty Trelái yng Nghaerdydd ers iddo fod yn blentyn, y cyfan yr oedd ei eisiau oedd byw mewn tŷ a bod mewn band.

Gyda’i gilydd fe wnaethon nhw a’u ffrindiau ofyn y cwestiwn “Pam na all pobl ag anableddau dysgu fyw yn y gymuned gydag ychydig o help a chefnogaeth ychwanegol?”. Erbyn 1974, roedden nhw wedi sefydlu y llety byw â chymorth cyntaf yn y DU yng Ngerddi Rhuthun, Cathays, pan wnaeth y myfyrwyr gwahodd grŵp o gleifion o Ysbyty Trelái yn cynnwys Alan i fyw gyda nhw.  Byddai’r gwaith a wnaed yng Ngerddi Rhuthun yn cael ei adlewyrchu mewn lletyau i grŵpiau ledled y DU gan arwain at gau 96 o sefydliadau. Bu’r Athro Mansell yn cynghori’r llywodraeth ar bolisi yn rheolaidd drwy gydol ei yrfa. Ers hynny mae’r model o fyw â chymorth a arloeswyd yn y tŷ wedi dod yn ffurf amlwg mewn Gofal Cymdeithasol Anabledd Dysgu ar draws y byd.

Caiff addasiad teimladwy a chynnes Tim Green o’r stori hon ei llwyfannu mewn cynhyrchiad egnïol sy’n llawn caneuon poblogaidd o’r 70au a’i pherfformio gan gast o actor-gerddorion niwro-amrywiol a niwro-nodweddiadol. Mae’r cast yn cynnwys Gareth John (Meet Fred Hijinx & Blind Summit, Club Supreme Hijinx & Ramshackalicious) fel Alan, Lindsay Foster (Meet Fred Hijinx & Blind Summit, The Crash Test Hijinx) fel Heather, Matthew Mullins (Rock Cliché, The Crash Test Hijinx) fel John a Richard Newnham (Meet Fred Hijinx & Blind Summit, The Crash Test Hijinx) fel Dr Cooper, oll yn actorion Hijinx, ochr yn ochr â Natasha Cottriall (I Joan Shakespeare’s Globe; The Welkin National Theatre) fel Sally, James Ifan adnabyddus i gynulleidfaoedd y Sherman am ei berfformiadau yn Tales of the Brothers Grimm ac A Christmas Carol fel Birch / Ensemble, Caitlin Lavagna (Operation Julie Theatr na nÓg; Fisherman’s Friends: The Musical) fel Sian / Ensemble, Peter Mooney (Beautiful Curve Theatre/Theatre Royal Bath; Just So Watermill Theatre ) fel Jim, ac Eveangeleis Tudball (Generation Atriwm Prifysgol De Cymru) fel Julie.

Mae Housemates yn cael ei gyd-gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig y Sherman, Joe Murphy (Tales of the Brothers Grimm, A Midsummer Night’s Dream Theatr y Sherman) a Chyfarwyddwr Artistig Hijinx Ben Pettitt-Wade (Meet Fred, The Flop, Mission Control Hijinx). Mae’r tîm creadigol hefyd yn cynnwys y Cynllunydd Carl Davies (Pijin Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo; Grandmother’s Closet Canolfan Mileniwm Cymru), Cynllunydd Goleuo Rachel Mortimer (Ghost Cities, Iphigenia in Splott Theatr y Sherman), y Cynllunydd Sain a Chyfansoddwr Tic Ashfield (cyfres sain Calon Caerdydd Theatr y Sherman; Es & Flo Canolfan Mileniwm Cymru a’r Kiln Theatre), James Ifan Cyfarwyddwr Cerdd, a’r Peiriannydd Sain Chris Laurich (taith Machinal; Glutz Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru).

Mae Housemates yn bartneriaeth rhwng Theatr y Sherman a Hijinx, gan ddilyn Romeo and Julie (gyda’r National Theatre), Imrie (gyda Frân Wen) a Peter Pan (gyda Theatr Iolo) sydd ar y gweill, sydd oll yn rhan o gyfres o gyd-gynyrchiadau’r Sherman ar gyfer blwyddyn ei phenblwydd yn 50 oed. Mae’r ddrama gyflawn Housemates, yn dilyn drama sain fer o’r un enw gan Tim, a gomisiynwyd gan Theatr y Sherman ar gyfer ei chyfres Calon Caerdydd yn ystod y cyfnod clo. Mae’r Innovate Trust, sef yr elusen a sefydlodd y tŷ dan yr enw CUSS, yn bartneriaid ar y prosiect. Heddiw, mae’r Innovate Trust yn parhau i gefnogi a grymuso pobl ag anableddau dysgu ar draws De Cymru. Hoffai Theatr y Sherman a Hijinx fynegi eu diolch i’r Innovate Trust am eu mewnbwn i ddatblygiad y ddrama.

Dywedodd Gareth John “Mae Housemates yn dangos y gall Alan fod yn berson, nid dim ond yn glaf. Gall Alan fod yn annibynnol, gwneud ei ffrindiau ei hun, chwarae ei ddrymiau a gwneud dewisiadau, mae ei lais yn gallu cael ei glywed ac fe all gael ei weld fel person normal. Mae eisiau bod yn rhydd, i chwarae ei gerddoriaeth. Rwy’n edrych ymlaen at chwarae’r drymiau yn y sioe, a beth mae hynny’n ei olygu i Alan.”

Dywedodd Joe Murphy “Mae hi wirioneddol yn fraint cael dod â’r stori ryfeddol hon i’r llwyfan ar y cyd â Hijinx. Mae’n stori a newidiodd y byd ac a ddigwyddodd dafliad carreg o’r Sherman yn ystod y flwyddyn ar ôl i ni agor ein drysau am y tro cyntaf. Mae gweithio gyda Tim i greu ei ddrama deimladwy a hwyliog wedi bod yn broses fendigedig, reit o’r hedyn cyntaf, sef y ddrama sain fer a ysgrifennodd ar ein cyfer yn ystod y cyfnod clo yn 2020. Mae Housemates yn dathlu yr hawl i hunanbenderfyniad ac urddas pob unigolyn . Ni allwn aros i rannu’r ddrama hon â chynulleidfaoedd yn ystod blwyddyn ein pen-blwydd yn 50 oed.”

Dywedodd Ben Pettitt-Wade “Mae Housemates yn stori sydd wedi’i gwreiddio yng Nghaerdydd, a gafodd effaith ledled y byd, ac sydd wedi newid bywydau cannoedd o filoedd o bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn y wlad hon yn unig, ac sy’n parhau i wneud hynny. Mae’n stori am bwysigrwydd gwelededd, mynediad at gyfleoedd, yr hawl i wneud penderfyniadau drosom ein hunain, am ganfyddiadau, rhyddid, gwrthryfel a chynhwysiant. Mae’n adrodd hanes yr amodau ofnadwy a ddioddefwyd yn Ysbyty Trelái a sefydliadau eraill tebyg, ond wrth ei wraidd mae cyfeillgarwch a oedd mor gryf ei fod wedi newid cwrs hanes. Mae’n stori sy’n agos at galon Hijinx a’n hartistiaid, ac o’r herwydd rydym yn hynod o falch a chyffrous i allu cydweithio â’r Sherman a’r awdur Tim Green i ddod â’r stori hon sydd heb ei dweud o’r blaen i’r llwyfan.”

Cefnogir Housemates gan gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Ochr yn ochr â Housemates, mae tocynnau ar gyfer cynhyrchiad cymunedol Theatr y Sherman, sy’n rhan bwysig o’r dathliadau pen-blwydd yn 50 oed, hefyd yn mynd ar werth heddiw. Mae’r cynhyrchiad Love, Cardiff: 50 years of your stories (17 a 19 Awst) yn gyfle i ddathlu’r bobl a’r ddinas a wnaeth Theatr y Sherman yr hyn ydyw heddiw. Gan gyfuno ysgrifennu newydd a chyd-greu, bydd cymunedau o bob rhan o Gaerdydd yn camu ar lwyfan Prif Dŷ’r Sherman i adrodd rhai o’u straeon, a nifer ohonynt yn gwneud hynny gyda’u geiriau eu hunain. I gyd-fynd â’r perfformiad byddwn yn cynnal arddangosfa a rhaglen ategol o ddigwyddiadau dan arweiniad y gymuned. Mae tocynnau ar gyfer pob perfformiad yn cael eu gwerthu ar sail Talu Beth Fynnwch rhwng £4 a £27. Mae’r cynhyrchiad yn ganlyniad i brosiect cymunedol a wnaed yn bosibl drwy grant o £55,607 a ddyfarnwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.