MANYLION TERFYNOL WEDI’I GYHOEDDI AR GYFER RHAGLEN BLWYDDYN PEN-BLWYDD THEATR Y SHERMAN YN 50

Cyhoeddiadau Sherman yn 50
50 blwyddyn i’r diwrnod ers i Theatr y Sherman agor ei ddrysau, mae’r theatr wedi cyhoeddi rhaglen o fentrau yn cymryd lle yn ystod y cyfnod sy’n arwain at yr agoriad swyddogol ym mis Tachwedd.

Yn ystod 2023 hyd yn hyn, mae Theatr y Sherman wedi dathlu ei penblwydd yn 50 gyda rhaglen helaeth o berfformiadau a digwyddiadau gan gynnwys y llwyddiant rhagorol o Romeo and Julie gan Gary Owen, cyd-gynhyrchiad gyda National Theatre; y dangosiad rhyngwladol o Imrie gan Nia Morais a welodd Elan Davies yn enillydd Cymraeg cyntaf erioed y Stage Debut Award ar gyfer ei pherfformiad anhygoel yn y cyd-gynyrchyiad gyda Frân Wen, a’r cynhyrchiad cymunedol hollol lwyddiannus Love, Cardiff: 50 Years of Your Stories.

Daw’r flwyddyn i ben gyda chyfres o ddigwyddiadau a mentrau dathlu ar gyfer cynulleidfaoedd eang:

50 am 50: Dros y 50 mlynedd, mae Theatr y Sherman wedi cyflwyno theatr i genedlaethau o blant. Mae’r Sherman yn credu y dylai theatr eithriadol a ddyrchafol fod o fewn cyrraedd pawb. Drwy ei phrisiau hygyrch ar gyfer cynyrchiadau Crëwyd yn y Sherman, gall dau oedolyn a dau blentyn weld sioeau Nadolig gwefreiddiol y Brif Theatr am lai na £50. Mae perfformiadau Talwch Beth Fynnwch, cyfleusterau talu fesul cam a phrisiau tocynnau isel i aelodau Sherman 5, a rhaglen datblygu cynulleidfa arloesol y theatr i gyd yn sicrhau bod Theatr y Sherman yn hygyrch i bawb.

I ddathlu ei phen-blwydd yn 50 oed a’i hymrwymiad i hygyrchedd, mae Theatr y Sherman wedi cyhoeddi 50 am 50 sy’n rhoi’r cyfle i 50 o deuluoedd sydd erioed wedi mynychu’r Sherman o’r blaen i ddod i weld ei sioeau Nadolig yn rhad ac am ddim. Bydd pob teulu yn derbyn hyd at 5 tocyn ar gyfer perfformiad o naill ai Peter Pan, ar gyfer oed 7+, a Hansel a Gretel, ar gyfer plant 3-6 oed, rhwng 2 a 6 Ionawr 2024. Ni ellir trosglwyddo tocynnau, gellir eu defnyddio am un perfformiad yn unig, ni ellir eu cymhwyso yn ôl-weithredol ac yn amodol ar argaeledd ar sail y cyntaf i’r felin. Gall teuluoedd wneud cais i archebu tocynnau drwy ffonio Swyddfa Docynnau’r Sherman ar 029 2064 6900.

Llinell-Amser Stori’r Sherman: Mae Theatr y Sherman wedi lansio llinell-amser digidol, sy’n cynnig taith i gynulleidfaoedd trwy stori’r Sherman hyd yn hyn ac yn dod a’i archif helaeth yn fyw. Gall y llinell-amser cael ei weld trwy wefan Theatr y Sherman.

Gŵyl Teulu 3ydd o Dachwedd: Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae Theatr y Sherman wedi bod yn le yng Nghaerdydd i deuluoedd sy’n chwilio am adloniant eithriadol. I ddathlu hyn, yn y gwyliau hanner tymor mae Theatr y Sherman yn cynnal diwrnod o hwyl mewn gŵyl â digwyddiadau, gweithdai a pherfformiadau AM DDIM i bawb rhwng 3  – 16 oed. Bydd y diwrnod yn cynnwys perfformiadau byrion, colur, clowniaid, adrodd straeon a gweithdai cynllunio (rhaid archebu lle ymlaen llaw ar gyfer y gweithdai. Gallwch archebu o Hydref 9fed), gweithgareddau hwyliog  a chystadleuaeth cynllunio gwisg.

Noson Parti a Chwis y Sherman Ar y 17eg o Dachwedd, all cynulleidfaoedd Theatr y Sherman profi eu gwybodaeth am y Sherman hefo’r noson hwyliog codi arian hon a gynhelir gan arweinydd gwadd mwyaf arbennig.

Y Shermantiques Roadshow: Mae tîm staff y Sherman yn cynnig cynulleidfaoedd y cyfle i rannu eu straeon ac i ddod a dangos unrhyw luniau, memorabilia, rhaglenni neu daflenni sydd ganddyn nhw. Mae’r digwyddiad galw heibio yma yn anffurfiol ac yn cymryd lle ar 18 Tachwedd rhwng 11yb a 2yp. Darperir lluniaeth am ddim.