Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Cydymaith Cymunedol i gefnogi’r gwaith o weinyddu a chydlynu ein gweithgarwch Ymgysylltu Creadigol.
Cefnogir y swydd hon gan Sefydliad Moondance a bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adran Ymgysylltu Creadigol a thîm ehangach y Sherman i sicrhau y darperir rhaglen eang o fentrau cyfranogol a mentrau datblygu cynulleidfaoedd.
Cynigir y swydd hyn fel swydd rhan amser (15.5 awr), parhaol. Bydd sesiwn wybodaeth ar-lein yn cael ei chynnal ar Zoom ddydd Llun 19 Ionawr 2026 am hanner dydd. Cysylltwch â’r tîm recriwtio dros e-bost os hoffech ddod i'r sesiwn. Bydd recordiad o’r sesiwn ar gael ar ôl y digwyddiad, a fydd yn trafod y swydd a gwaith presennol yr adran Ymgysylltu Creadigol yn fanylach. Mi fydd hefyd cyfle i ofyn cwestiynau ynglŷn â’r swydd.
Dyddiad cau: 10yb, dydd Mawrth 27 Ionawr 2026
Cyfweliadau: dydd Llun 2 Chwefror 2026 a dydd Mawrth 3 Chwefror 2026
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.
Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn ofod amrywiol a chynhwysol sy’n perthyn i bobl de-ddwyrain Cymru. Rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan gymunedau ac unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein tîm ar hyn o bryd. Rydyn ni’n aelod o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd ac mae’r adeilad yn hygyrch, ym Mlaen y Tŷ a gefn llwyfan.
Mae pecynnau cais Cymraeg a Saesneg ar gael yn www.shermantheatre.co.uk/amdanom-ni/jobs/?lang=cy.
Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydyn ni’n ymroddedig i Iawnder, Amrywiaeth a Chynhwysiad, ac yn Elusen Gofrestredig.