CYDYMAITH GWEITHDAI – RHAGLEN ALLGYMORTH YSGOLION BALLOON GIRL

Math
Llawrydd
Cytundeb
Cyfnod Penodol - 6 diwrnod
Cyflog
£175 y dydd
Application closing date
Fri 17 Apr 2026
Bydd y Cydymaith Gweithdai yn gweithio gyda'r tîm creadigol craidd, Theatr y Sherman a’r Prif Hwylusydd i ddarparu gweithgareddau mewn ysgolion, wedi'u teilwra’n benodol ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 6 a Blwyddyn 7. Byddan nhw’n meithrin ymdeimlad o gyffro a chwilfrydedd yn y dysgwyr ac yn eu grymuso i archwilio'r gorffennol, i wneud cysylltiadau â'r presennol ac i ddychmygu’r dyfodol gan ddefnyddio strategaethau ac offer digidol ac yn y byd go iawn.

Bydd yr oriau gwaith yn hyblyg gyda chyfarfodydd, digwyddiadau a gweithdai yn cael eu trefnu yn ôl yr angen.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 17 Ebrill 2026, 5yh

Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y cyfle yma, anfonwch e-bost at francesca.pickard@shermantheatre.co.uk gan egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd a sut y byddai eich profiad yn berthnasol i'r prosiect.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r cyfeiriad yma os oes gennych gwestiynau, neu os hoffech siarad â rhywun yn anffurfiol am y swydd.

Rydyn ni am i'n tîm adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ledled y de-ddwyrain. Felly, rydyn ni’n estyn croeso arbennig i ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector ar hyn o bryd. Noder, yn unol â'n polisi amgylcheddol, mai dim ond ceisiadau electronig y byddwn yn ymdrin â nhw.

Gwnaed Rhaglen Allgymorth Ysgolion Balloon Girl yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol.

Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydyn ni’n ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.