DDYLUNYDD SAIN – RHAGLEN ALLGYMORTH YSGOLION BALLOON GIRL

Math
Llawrydd
Cytundeb
Cyfnod Penodol - 7.5 diwrnod
Cyflog
£200 y dydd
Application closing date
Fri 5 Jun 2026
Rydyn ni'n chwilio am Ddylunydd Sain i gefnogi'r gwaith o greu cynnwys sain ar draws Rhaglen Allgymorth Ysgolion Balloon Girl.

Bydd y swydd yn cyfrannu at y gwaith o siapio byd sonig y prosiect ar draws darpariaeth gweithdai a'r allbynnau creadigol fydd yn cael eu creu gyda phobl ifanc. Mae'r prosiect yn y cyfnod datblygu cynnar ar hyn o bryd, a bydd y Dylunydd Sain yn gweithio'n agos gyda'r tîm creadigol i ddatblygu a gwireddu elfennau sain. Bydd yr oriau gwaith yn hyblyg gyda chyfarfodydd, digwyddiadau a gweithdai yn cael eu trefnu yn ôl yr angen.

Dyddiad Cau: 5 Mehefin 2026

Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y cyfle yma, anfonwch e-bost at gwen.morris@shermantheatre.co.uk gan egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd a sut y byddai eich profiad yn berthnasol i'r prosiect. Gallwch hefyd ddefnyddio'r cyfeiriad yma os oes gennych gwestiynau, neu os hoffech siarad â rhywun yn anffurfiol am y swydd.

Rydyn ni am i'n tîm adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ledled y de-ddwyrain. Felly, rydyn ni’n estyn croeso arbennig i ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector ar hyn o bryd.

Noder, yn unol â'n polisi amgylcheddol, mai dim ond ceisiadau electronig y byddwn yn ymdrin â nhw. Gwnaed Rhaglen AllgymorthYsgolion Balloon Girl yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol.

Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydyn ni’n ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.