Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Rheolwr Profiad Ymwelwyr yn helpu i arwain gweithrediadau Blaen Tŷ’r theatr, gan gyfrannu at effeithlonrwydd gweithredol yr adran a darparu'r lefelau uchaf o wasanaeth cwsmer.
Bydd yr unigolyn hwn yn arwain ar ddatblygiad y cynllun gwirfoddolwyr ynghyd â'r holl recriwtio a hyfforddiant.Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd am wneud eu marc yn un o theatrau cynhyrchu mwyaf cyffrous y DU.
Dyddiad cau: 12noon, dydd Llun 21 Hydref 2024
Cynhelir y cyfweliadau ddydd Gwener 25 Hydref 2024
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.
Rydyn ni eisiau i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae’n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Rydym felly’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein tîm ar hyn o bryd. Mae ein hadeilad yn hygyrch i gyrraedd Blaen y Tŷ a chefn llwyfan.
Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.