Rheolwr Llwyfan y Cwmni

Math
Llawn amser
Cytundeb
Parhaol
Cyflog
£28,782 y flwyddyn
Application closing date
Thu 4 Jan 2024
Mae Rheolwr Llwyfan y Cwmni yn rôl allweddol o fewn Theatr y Sherman. Rydyn ni'n chwilio am berson tra brwdfrydig gyda phrofiad sylweddol o reolaeth llwyfan i gyflawni'r rôl yma.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cael profiad o weithio fel Rheolwr Llwyfan y Cwmni mewn amgylchedd theatr. Bydd angen iddyn nhw feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, hunan gymhelliant a'r gallu i weithio'n annibynnol dan bwysau yn ogystal â fel rhan o dîm. Byddwch yn gyfrifol am arwain y ddarpariaeth rheoli llwyfan ar gyfer cynyrchiadau Theatr y Sherman yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Fel aelod allweddol o adran gynhyrchu’r Sherman bydd gennych brofiad a dull ymarferol o ymdrin â phob maes o Reoli Llwyfan gan gynnwys propio, cyrraedd, gosod a gadael, Cyflogau Cwmni ac ati.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12yp Dydd Mawrth 09 Ionawr 2024

Cyfweliadau: Dydd Mawrth 09 Ionawr 2024

I wneud cais am y swydd, llwythwch y ffurflen gais a'r daflen eglurhaol, a'r ffurflen monitro cyfle cyfartal i lawr a'u hanfon at recruitment@shermantheatre.co.uk.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk

Rydyn ni eisiau i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae’n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Rydym felly’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau Byddar ac anabl sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein tîm ar hyn o bryd.

Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig