Cytundeb 13 Wythnos: Dydd Llun 9 Hydref 2023 – Dydd Sadwrn 6 Ionawr 2024
Hansel and/a Gretel yw sioe eleni, i gynnwys cast o Actor-gerddorion gyda pherfformiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae ein sioe Nadolig yn y Stiwdio wedi’i deilwra at blant dan 7 oed fel cyflwyniad i’r theatr.
Prif gyfrifoldebau’r Rheolwr Llwyfan ar y llyfrau fydd cynnal ymarferion, propio’r perfformiadau, ciwio/galw’r sioe, gyrru’r fan ar gyfer y daith leol, arwain ar osod a dadosod y set ym mhob lleoliad, cynorthwyo’r technegydd gydag ail-oleuo a gosodiad technegol y sioe. (Bydd y daith yn derbyn cefnogaeth gan dechnegydd ac aelodau’r cast yn ogystal â thîm pob lleoliad).
Er mai chi fydd yr unig reolwr llwyfan wedi neilltuo’n benodol i’r cynhyrchiad yma, byddwch yn derbyn cefnogaeth gan reolwr llwyfan llawn amser y Sherman yn ogystal â phob aelod o dîm cynhyrchu’r Sherman (llawrydd a pharhaol). Ar adegau, bydd hefyd ddisgwyliad i chi helpu mewn meysydd arall er mwyn sicrhau llwyddiant yr adran.
Nodweddion Hanfodol:
- Profiad neu wybodaeth flaenorol o gynnal taith ddyddiol/ar raddfa fach, gan gynnwys arwain ar waith gosod/dadosod.
- Gwybodaeth sylfaenol am osod, gweithredu a datrys problemau system LX a Sain.
- Parodrwydd a’r gallu i weithio fel rhan o dîm, gan arwain pan fo angen
- Y gallu i yrru fan. (Dros 25 oed oherwydd dibenion yswiriant y fan)
- Person positif a chymhellol
- Sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol
Nodweddion Dymunol:
- Siaradwr Cymraeg
- Sgiliau creu, cynnal a chadw propiau
- Sgiliau sylfaenol o gynnal a chadw gwisgoedd
- Lle i aros yng Nghaerdydd / gwybodaeth leol.
Bydd yr ymarferion, rhediad tech a pherfformiadau agoriadol y cynhyrchiad yn digwydd yn Stiwdio Theatr y Sherman, cyn mynd ar daith o amgylch lleoliadau lleol yn Ne Cymru am gyfnod o dair wythnos. Yna daw’r sioe yn ôl i Theatr y Sherman lle bydd perfformiadau yn y Stiwdio drwy gydol mis Rhagfyr ac wythnos gyntaf Ionawr.
Dyddiadau:
Ymarferion: Dydd Llun 9 Hydref 2023 – Dydd Sadwrn 28 Hydref 2023
Wythnos Dechnegol: Dydd Llun 30 Hydref 2023 – Dydd Iau 2 Tachwedd 2023
Rhagolygon: Dydd Gwener 3 Tachwedd 2023 – Dydd Sadwrn 4 Tachwedd 2023
Taith Leol: Dydd Llun 6 Tachwedd 2023 – Dydd Sadwrn 25 Tachwedd 2023
Perfformiadau yn Theatr y Sherman: Dydd Llun 27 Tachwedd 2023 – Dydd Sadwrn 6 Ionawr 2024
Rydym am ychwanegu at amrywiaeth ein gweithlu ac felly byddem yn croesawu’n arbennig geisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein tîm ar hyn o bryd. Mae ein hadeilad yn hygyrch ym mlaen y theatr yn ogystal â thu ôl i’r llwyfan. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg hefyd yn ddymunol.
I wneud cais, anfonwch eich CV at recruitment@shermantheatre.co.uk
Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym wedi ymrwymo i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.