Rheolwr Cynhyrchu a Rhaglennu

Math
Llawn Amser
Cytundeb
Parhaol
Cyflog
£26,650 y flwyddyn, yn amodol ar adolygiad yn mis Ebrill 2024
Application closing date
Wed 3 Apr 2024
Rydym yn chwilio am Reolwr Cynhyrchu a Rhaglennu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a gwireddu rhaglen artistig Theatr y Sherman, gan weithio'n agos gyda'r Tîm Gweithredol a'r Tîm Rhaglennu ar feysydd fel castio, negodi contractau ac archebion/contractau ar gyfer rhaglenni cwmnïau sy’n ymweld â’r Sherman ac ar gyfer Theatr y Sherman ar daith.

I godi incwm drwy fynd ati i ddatblygu ystod lawn o weithgareddau a llogi masnachol y gellir eu hymgorffori o amgylch y rhaglen artistig ac sy’n briodol i gymeriad penodol y cwmni. I ddarparu cefnogaeth i'r Tîm Gweithredol yn ôl yr angen.

Rydyn ni am i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae'n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Felly, rydyn ni’n estyn croeso arbennig i ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein tîm ar hyn o bryd.

I wneud cais am y swydd, llwythwch y ffurflen gais, y daflen eglurhaol a'r ffurflen monitro cyfle cyfartal i lawr a'u hanfon at recruitment@shermantheatre.co.uk

Dyddiad cau: Hanner dydd, ar Ddydd Mercher 3 Ebrill 2024

Cyfweliadau: Dydd Llun 8 Ebrill 2024