Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Rheolwr Bar a Chegin i helpu i arwain gweithrediadau Blaen Tŷ’r theatr.
Byddant yn cyfrannu at effeithlonrwydd gweithredol yr adran ac yn darparu gwasanaeth cwsmer i’r safon uchaf. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu profedig i sicrhau fod y Bar a’r Gegin yn darparu gwasanaeth priodol yn effeithiol ac yn broffidiol gan gefnogi ac ategu amcanion Theatr y Sherman yn ystod a thu hwnt i amseroedd perfformiadau ac yn unol ag amcanion datblygu cynulleidfa. Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd am wneud eu marc yn un o theatrau cynhyrchu mwyaf cyffrous y DU, wedi’i lleoli mewn dinas hardd, ffyniannus sy’n cael ei chydnabod fel lle rhagorol i fyw.
Dyddiad cau: Hanner dydd ar ddydd Llun 2 Mawrth 2026.
Cyfweliadau i'w cynnal dydd Gwener 6 Mawrth 2026
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.
Rydyn ni eisiau i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae’n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Rydym felly’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein tîm ar hyn o bryd. Mae ein hadeilad yn hygyrch i gyrraedd Blaen y Tŷ a chefn llwyfan.
Mae pecynnau cais Cymraeg a Saesneg ar gael yn www.shermantheatre.co.uk/amdanom-ni/jobs/?lang=cy
Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.