Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Prif Hwylusydd i gynllunio a chynnal ein rhaglen Sherman Sherbets, a fydd yn darparu sesiynau dychmygol a diddorol i blant ifanc i’w helpu i ddatblygu hyder, i ryngweithio ac i adeiladu sgiliau adrodd straeon.
Bydd y swydd yn gweithio'n agos gyda Hwylusydd Cynorthwyol y Sherbets, yn ogystal â chydweithwyr yn yr Adran Ymgysylltu Creadigol. Bydd gweithgareddau’n cynnwys gweithdai wythnosol a pherfformiadau rheolaidd ble gall aelodau berfformio o flaen ffrindiau a theulu. Cynhelir sesiynau bob dydd Sadwrn yn ystod tymhorau ysgol. Mae ein mintai Sherbets yn cynnwys dau grŵp: Sherbets 1 (4 – 6 oed) sy’n cyfarfod o 10yb – 11yb, a Sherbets 2 (6 – 8 oed) sy’n cyfarfod o 11yb – 12.30yp.
Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac mae hi ar agor i ymgeiswyr sy’n 18 oed neu’n hŷn.
Dyddiad cau: 9yb, dydd Llun 24 Awst 2026 Cyfweliadau: dydd Iau 27 Awst 2026 Dyddiad dechrau: Medi 2026 Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.
Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn ofod amrywiol a chynhwysol sy’n perthyn i bobl de-ddwyrain Cymru. Rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan gymunedau ac unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein tîm ar hyn o bryd. Rydyn ni’n aelod o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd ac mae’r adeilad yn hygyrch, ym Mlaen y Tŷ a gefn llwyfan.
Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydyn ni’n ymroddedig i Iawnder, Amrywiaeth a Chynhwysiad, ac yn Elusen Gofrestredig.