Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Pennaeth Gweithrediadau i gefnogi’r Uwch Dîm Rheoli, gan gynnwys y Prif Weithredwr, ym mhob agwedd o brofiad ymwelwyr, rheoli adeiladau a chyfleusterau, iechyd a diogelwch, cynaliadwyedd a’r holl weithrediadau masnachol.
Rydyn ni eisiau i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae’n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Rydym felly’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau b/byddar ac anabl sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein tîm ar hyn o bryd.
I wneud cais am y swydd, llwythwch y ffurflen gais, y daflen eglurhaol a'r ffurflen monitro cyfle cyfartal i lawr a'u hanfon at recruitment@shermantheatre.co.uk.
Dyddiad cau: Hanner dydd, ar Ddydd Llun 25 Medi 2023.
Cyfweliadau: Ddydd Llun 2 a/neu dydd Mawrth 3 Hydref 2023.
Cyllidir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.