Gan weithio’n gyfagos â’r tîm sydd wrth wraidd y prosiect, bydd y swyddi yma’n helpu siapio hunaniaeth weledol y prosiect ar draws gweithdai, adnoddau addysg a deunyddiau ar gyfer cyfranogwyr. Bydd yr unigolion yn cefnogi’r gwaith o greu cynnwys gweledol a ffisegol sy’n annog chwilfrydedd, sgiliau adrodd straeon a dychymyg ar gyfer pobl ifanc 10-12 oed.
Mae'r prosiect yn y cyfnod datblygu cynnar ar hyn o bryd ac mi fydd maes bob swydd yn esblygu wrth i’r rhaglen ddatblygu. Oherwydd hyn, byddwn yn penderfynu gyda’r unigolion pa ddyddiau y byddant yn gweithio ar y prosiect.
Bydd yr oriau gwaith yn hyblyg gyda chyfarfodydd, digwyddiadau a gweithdai yn cael eu trefnu yn ôl yr angen. Dyddiad Cau: 5 Mehefin 2026
Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y cyfle yma, anfonwch e-bost at gwen.morris@shermantheatre.co.uk gan egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd a sut y byddai eich profiad yn berthnasol i'r prosiect. Gallwch hefyd ddefnyddio'r cyfeiriad yma os oes gennych gwestiynau, neu os hoffech siarad â rhywun yn anffurfiol am y swydd.
Rydyn ni am i'n tîm adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ledled y de-ddwyrain. Felly, rydyn ni’n estyn croeso arbennig i ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau byddar ac anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector ar hyn o bryd.
Noder, yn unol â'n polisi amgylcheddol, mai dim ond ceisiadau electronig y byddwn yn ymdrin â nhw. Gwnaed Rhaglen AllgymorthYsgolion Balloon Girl yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol.
Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydyn ni’n ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.