Cynorthwyydd Swyddfa Docynnau

Cyflog
£12.81 yr awr
Application closing date
Tue 29 Sep 2026
A all eich agwedd siriol a chymwynasgar roi croeso cynnes i’n cwsmeriaid, gan wneud iddynt fod eisiau ymweld â’r theatr dro ar ôl tro? Allwch chi ein helpu i werthu mwy o docynnau? Os felly, gallech fod yn rhan hanfodol o dîm y Swyddfa Docynnau.

Rydym yn edrych i gyflogi Cynorthwyydd Swyddfa Docynnau sydd siarad Cymraeg a Saesneg.

Mwy o wybodaeth:

• Mae hyblygrwydd yn hanfodol gan y bydd oriau gwaith yn newid o wythnos i wythnos.

• Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gyflogi ar gontract dim oriau Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.

Rydyn ni eisiau i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae’n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Rydym felly’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein tîm ar hyn o bryd. Mae ein hadeilad yn hygyrch i gyrraedd Blaen y Tŷ a chefn llwyfan.

Mae pecynnau cais Cymraeg a Saesneg ar gael yn www.shermantheatre.co.uk/amdanom-ni/jobs/?lang=cy

Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.