Oes gennych chi brofiad o baratoi bwyd neu’r ddealltwriaeth o weithio mewn cegin brysur? ‘Ydych chi’n berson hwyliog a chymwynasgar? Allwch chi roi croeso cynnes i’n cwsmeriaid, fel eu bod yn awyddus i ymweld â’r theatr dro ar ôl thro?
Os felly, gallwch fod yn rhan allweddol o’n tîm Bar a’r Gegin.
- Mae hyblygrwydd yn hanfodol oherwydd bydd oriau gwaith yn newid o wythnos i wythnos.
- Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn cael ei gyflogi ar cytundeb sero awr
Rydyn ni’n awyddus i ychwanegu at amrywiaeth ein gweithlu, ac felly byddem yn croesawu’n benodol geisiadau gan gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn ein tîm ar hyn o bryd. Mae ein hadeilad yn hygyrch i gyrraedd Blaen y Tŷ a chefn llwyfan. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg hefyd yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.
I wneud cais am y swydd, lawrlwythwch y pecyn ymgeisio, y ffurflen gais a'r ffurflen monitro cyfle cyfartal a'u hanfon at recruitment@shermantheatre.co.uk.
Nid oes dyddiad cau ar gyfer y swydd hon.
Rydyn ni eisiau i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae’n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Rydym felly’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein tîm ar hyn o bryd. Mae ein hadeilad yn hygyrch i gyrraedd Blaen y Tŷ a chefn llwyfan.
Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.