Cynorthwyydd Bar a Chegin

Cyflog
£12.71 yr awr
Oes gennych chi brofiad o baratoi bwyd neu’r ddealltwriaeth o weithio mewn cegin brysur? ‘Ydych chi’n berson hwyliog a chymwynasgar? Allwch chi roi croeso cynnes i’n cwsmeriaid, fel eu bod yn awyddus i ymweld â’r theatr dro ar ôl thro?
Os felly, gallwch fod yn rhan allweddol o’n tîm Bar a’r Gegin.

  • - Mae hyblygrwydd yn hanfodol oherwydd bydd oriau gwaith yn newid o wythnos i wythnos.
  • - Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn cael ei gyflogi ar cytundeb sero awr.
  Rydyn ni’n awyddus i ychwanegu at amrywiaeth ein gweithlu, ac felly byddem yn croesawu’n benodol geisiadau gan gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn ein tîm ar hyn o bryd. Rydyn ni’n aelod o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd ac mae’r adeilad yn hygyrch, ym Mlaen y Tŷ a gefn llwyfan. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg hefyd yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol.  

I gael pecyn cais Cymraeg neu Saesneg, ewch www.shermantheatre.co.uk/about-us/jobs/

Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydyn ni’n ymroddedig i Iawnder, Amrywiaeth a Chynhwysiad, ac yn Elusen Gofrestredig.