Mae Ramps Cymru (teitl gweithredol) yn bartneriaeth newydd sy’n cynnwys Theatr y Sherman, Canolfan Celfyddydau Pontio, Theatr y Torch, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Theatr Clwyd.
Nod Ramps Cymru yw rhoi newid ystyrlon a chynaliadwy ar waith i wella cynrychiolaeth pobl anabl (gan gynnwys pobl Fyddar, niwrowahanol a phobl ag anableddau dysgu) ar draws y sector theatr prif ffrwd yng Nghymru.
Cliciwch yma i gael y wybodaeth isod yn IAP (BSL).
Cawsom gyllid gan raglen Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru i gyflogi Sara Beer fel Cyfarwyddwr Newid ac, o ganlyniad i’r adolygiad buddsoddi diweddar, rydym wedi derbyn cyllid strategol pellach i ymestyn y fenter i fod yn rhaglen hirdymor.
Rydym nawr eisiau cyflogi 5 Asiant dros Newid rhan amser i ddatblygu'r cyfle unigryw yma gyda'r sefydliadau partner. Bydd cael Asiantau dros Newid yn gweithio ym mhob lleoliad partner yn cynorthwyo gyda’r newid sefydliadol rydym eisiau ei weld ar draws y sector theatr yng Nghymru.
Bydd y swyddi’n cael eu cynnig i’r rhai sy’n nodi eu bod yn Fyddar, yn anabl neu’n niwrowahanol ac sydd ag angerdd dros greu newid o fewn y sector theatr yng Nghymru.
Bydd yr Asiantau’n cael eu cyflogi gan Theatr Clwyd ond yn cael eu rheoli gan y Cyfarwyddwr dros Newid ac aelod o dîm arwain y partneriaid. Byddant wedi'u lleoli mewn lleoliad partner o'u dewis ond bydd cyfleoedd i weithio'n agos gyda'r Asiantau mewn lleoliadau eraill, felly mae parodrwydd i deithio ledled Cymru yn ddymunol.
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Dyddiad y Cyfweliad: Yr wythnos sy’n dechrau ar 18 Mawrth
Bydd yr Asiant dros Newid yn gweithio ar draws pob tîm yn Theatr Clwyd.
Meini Prawf Hanfodol
- Yn uniaethu fel Byddar / anabl / niwrowahanol
- Profiad o greu theatr
- Gall weithio o Theatr Clwyd
- Cymraeg ysgrifenedig a llafar
- Yn uniaethu fel Byddar / anabl / niwrowahanol
- Sgiliau cyfathrebu cadarn
- Hyderus i weithio gyda'r holl randdeiliaid wrth weithio fel asiant
- Profiad o amgylchedd cynhyrchu
- Diddordeb mewn ysgrifennu newydd
- Yn siarad ail iaith
- Yn uniaethu fel Byddar / anabl / niwrowahanol
- Wedi’i leoli yn y Torch
- Yn siarad ail iaith
- Yn uniaethu fel Byddar / anabl / niwrowahanol
- Yn siarad Cymraeg
- Gyda gwybodaeth am y celfyddydau mewn lleoliadau gwledig / cymunedol
- Gyda sgiliau trosglwyddadwy
- Yn uniaethu fel Byddar / anabl neu niwrowahanol
- Profiad o weithio gydag oedolion ifanc (18 i 22 oed)
- Gyda sgiliau hwyluso gweithdai
- Gwybodaeth am gynyrchiadau hygyrch a diddordeb ynddynt
- Profiad o weithio mewn amgylchedd addysgol