Mae Theatr y Sherman heddiw wedi cadarnhau cast ei chynhyrchiad o Alice: Return to Wonderland (28 Tach 2025-3 Ion 2026), sioe newydd freuddwydiol ac ysbrydoledig a ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Hannah McPake, ac sy’n seiliedig ar Through the Looking Glass gan Lewis Carroll. Mi fydd cynulleidfaoedd y Sherman yn adnabod Hannah fel y prif actores yn A Christmas Carol y llynedd; y sioe a wnaeth y mwyaf o elw yn hanes y cwmni.
Yn un o artistiaid mwyaf poblogaidd y cwmni, mae gwaith blaenorol Hannah yn y Sherman ar y llwyfan ac oddi arno wedi swyno cynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd. Fel actores, mae hi’n fwyaf adnabyddus am ei phrif rôl fel Ebbie Scrooge yn y ddau gynhyrchiad o A Christmas Carol (2021 a 2024) ac fel y Queen of Hearts yng nghynhyrchiad y Sherman o Alice in Wonderland yn 2018. Yn 2022 ysgrifennodd gynhyrchiad y cwmni o Tales of the Brothers Grimm ac yn 2021 ysgrifennodd a chyfarwyddodd y ddrama un fenyw Tilting at Windows.
Yn nrama newydd Hannah, yn seiliedig ar straeon clasurol Carroll, cawn ein cludo o Gaerdydd ar ôl y rhyfel i’r Wonderland swrealaidd, lle mae Alice, sydd wedi tyfu i fyny, yn rasio i achub ei merch Carys o grafangau’r Red Queen. Caiff cynulleidfaoedd eu hailuno â’u hoff gymeriadau o Wonderland a byddant yn cwrdd â rhai newydd hefyd.
Yn chwarae’r brif ran fydd Elian Mai West, a chwaraeodd Alice hefyd yng nghynhyrchiad y Sherman o Alice in Wonderland yn 2018). Yn ymuno ag Elian yn y cast bydd Mari Fflur (Hansel a Gretel/Hansel and Gretel, Yr Hugan Fach Goch/Little Red Riding Hood); Caitlin Lavagna (Housemates); Emily Ivana Hawkins (Housemates, A Christmas Carol – cynhyrchiad 2024); Oliver Wood (A Christmas Carol – cynhyrchiad 2024); Joe Tweedale (The Borrowers, Alice in Wonderland) ac yn perfformio yn y Sherman am y tro cyntaf, Max James. Bydd Keiron Self hefyd yn perfformio yn ei 11eg sioe Nadolig yn Theatr y Sherman.
Yn ymuno â’r Cyfarwyddwr Hannah yn y tîm creadigol mae’r Gyfansoddwraig Lucy Rivers (A Christmas Carol), y Cyfarwyddwr Cyswllt Alice Eklund (Yr Hugan Fach Goch / Little Red Riding Hood), y Cyfarwyddwr Cerdd Barnaby Southgate (A Christmas Carol), y Dylunydd Elin Steele (A Midsummer Night’s Dream), y Dylunydd Sain Sam Jones (Imrie) a’r Dylunydd Goleuo Andy Pike (A Christmas Carol).
Profwch lawenydd llawn y Nadolig gyda’r fersiwn wyllt a rhyfeddol, gyfoes hon o Alice in Wonderland oesol Lewis Carroll, wedi’i pherfformio gan gast eithriadol o actorion-gerddorion.
Dros fwy na 40 mlynedd, mae cynyrchiadau Nadolig Theatr y Sherman wedi cyflwyno cenedlaethau o blant o bob cwr o dde Cymru i hud y theatr – bob amser gyda dehongliad o’r newydd. Eleni, mae’r cwmni’n cynhyrchu Alice: Return to Wonderland ochr yn ochr â chynhyrchiad newydd sbon o Biwti a Brogs (yn Gymraeg) a The Frog Prince (yn Saesneg), a gaiff eu perfformio yn Theatr y Sherman a hefyd yn teithio Cymru.