Mae croeso i bawb ymuno â ni mewn diwrnod o weithgareddau AM DDIM i bobl o bob oed i ddathlu Wythnos Ffoaduriaid 2022.
Dydd Mawrth 21 Mehefin, 10am – 5pm. Galwch heibio unrhyw bryd.
- Cerddoriaeth Fyw gyda Chôr Un Byd
- Bwyd gan Oasis Caerdydd
- Straeon gan ein gwesteion arbennig
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 075 4521 0357 / 029 2064 6911.
Ym mis Tachwedd 2019, penodwyd Theatr y Sherman yn Theatr Noddfa cyntaf Cymru. Mae’r statws a bennwyd gan Dinas Noddfa yn cydnabod y Sherman fel man lle y gall ffoaduriaid a cheiswyr noddfa deimlo’n ddiogel, dderbyn croeso a derbyn cefnogaeth.