Gweithdy OUT-RAGE-US

A collaboration between Pride Cymru, Glitter Cymru, National Theatre Wales and Sherman Theatre

Os ydych chi'n ysgrifennwr LHDTCRhA+, neu'n LHDTCRhA+ ac â diddordeb mewn ysgrifennu, ymunwch â ni ar gyfer gweithdy ysgrifennu dramâu.

Dydd Sadwrn 30 Ebrill, 1-4yp yn Theatr y Sherman.

Ymunwch â Chydymaith Creadigol National Theatre Wales, Rahim El Habachi, a Chydymaith Llenyddol Theatr y Sherman, Alice Eklund, i archwilio’r broses o ysgrifennu dramâu a sut yr awn o’r syniad, i’r sgript i’r llwyfan.

Drwy gydol y sesiwn byddwn yn arbrofi â gwahanol ymarferion, gemau ac ysgrifennu-rhydd i gael blas ar ysgrifennu i’r llwyfan, gan roi’r offer i chi ddod â’ch drama i’n noson OUT-RAGE-US! nesaf.