• Diolch i haelioni ymddiriedolaeth The Oakdale Trust, mae Theatr y Sherman wrth ei bodd yn cynnig cefnogaeth i grwpiau sy’n archebu tocynnau i ddod i weld Odyssey ’84 yr hydref hwn.
• Mae’r Gronfa Cefnogi Teithio ar gael i grwpiau o 10 neu fwy o bobl, sy’n teithio o leiaf 10 milltir i’r theatr yng Nghaerdydd.
• Gellir Gwneud cais am grantiau o hyd at £75 drwy ddefnyddio ein ffurflen gais syml (dolem isod).
• Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gronfa, cysylltwch â community@shermantheatre.co.uk neu ffoniwch ein Swyddfa Docynnau.
• Mae tocynnau Odyssey ‘84 yn costio £16 – £29 (tocynnau hanner pris i’r rheiny dan 25 oed).
Defnyddir y wybodaeth y rhannwch at ddibenion prosesu eich cais yn unig, ac ni fydd Theatr y Sherman yn cadw’r wybodaeth.
Cliciwch fan hyn i ymgeisio ar gyfer cefnogaeth trafnidiaeth
Sylwch na ellir cymhwyso’r cynnig hwn yn ôl-weithredol.