Galwad ‘Llyfr Agored’

Cyhoeddiadau
Yn galw ar bob gweithiwr llawrydd Cymraeg neu o Gymru!

Ydych chi erioed wedi bod eisiau gwybod beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn eich sefydliadau theatr? Os felly, gwych! Rydyn ni’n meddwl y dylai pawb sy’n gweithio yn ein diwydiant ni gael mynediad at yr wybodaeth yma – i’r ystafelloedd yma, ar yr adegau pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud.

Yn 2024, fe fyddwn ni’n agor ein drysau – a’n llyfrau – i chi. Ein cymuned lawrydd.

Mae ‘Llyfr Agored’ yn bartneriaeth newydd rhwng Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, Theatr y Torch, y Theatr Genedlaethol Cymru a Chelfyddydau Pontio Bangor.

Byddwn yn cynnig 15 diwrnod yr un o gysgodi gyda thâl llawn i ddeg o weithwyr theatr llawrydd a chyfle i weithio gyda’n Cyfarwyddwyr Gweithredol a’r Uwch Dimau Arwain. Ar gyfer pob cyfranogwr, bydd hyn yn digwydd yn Theatr Clwyd ac mewn un sefydliad partner arall.

Chi fydd yn penderfynu pryd a sut bydd y 15 diwrnod yma’n cael eu cwblhau. Rydyn ni eisiau gweithio gyda’ch amserlen lawrydd heriol sy’n newid yn barhaus, nid gweithio yn ei herbyn.

Cyflog:                                               £600 yr wythnos

Cynhaliaeth (os oes angen):           £210 yr wythnos

Bydd yr holl gostau teithio ar gyfer siwrneiau cymudo nad ydynt yn rheolaidd yn cael eu had-dalu

Ar ddiwedd y prosiect, bydd cronfa gyffredinol o £5,000 ar gael i ariannu cynigion / prosiectau sydd wedi’u cynllunio gan y cyfranogwyr eu hunain.

Fel dewis arall, cyflwynwch fideo heb fod yn hirach na 5 munud o hyd yn cynnwys y pwyntiau ar y ffurflen gais. I wneud hyn, darparwch ddolen (e.e. google drive) i’ch fideo.

Dyddiad cau Dydd Gwener 5ed Ionawr 2024

Gwnewch gais nawr