Galwad Agored am Gynllunydd i Elen Benfelen / Goldilocks

Crewyr Theatr
Set and costume designer Opportunity for Sherman Theatre’s Under 7’s Christmas Show

Rydyn ni’n chwilio am Gynllunydd sy’n angerddol am theatr i’r teulu i gynllunio ein Sioe Nadolig i blant dan 7 oed. Mae ein sioeau Nadolig Stiwdio yn gyflwyniad perffaith i’r theatr i’r rhai bach rhwng 3 a 6 oed, ac eleni rydyn ni’n falch o gyflwyno Elen Benfelen, a ysgrifennwyd gan un o awduron mwyaf cyffrous Cymru, Elgan Rhys.

Gyda chast o dri Actor-Gerddor, bydd yr addasiad newydd yma’n rhoi golwg newydd a chyfoes ar y chwedl draddodiadol, yn llawn hud a helynt. Bydd Elen Benfelen yn agor yn Stiwdio’r Sherman cyn mynd ar daith dros dair wythnos i leoliadau ledled y de, cyn dychwelyd yn ôl i’r Sherman ar gyfer gweddill cyfnod yr ŵyl.

Dyddiadau cau cynllunio:

  • Cysyniad Cynllunio: canol mis Gorffennaf 2022
  • Cynlluniau rhagarweiniol ar gyfer y set a’r gwisgoedd: dechrau mis Awst 2022
  • Cynlluniau terfynol ar gyfer y set a’r gwisgoedd: canol mis Awst 2022
  • Dyddiadau

  • Ymarferion Dydd Llun 10 Hydref, 2022
  • Ffitio Dydd Llun 24 Hydref, 2022
  • Wythnos Gynhyrchu Dydd Llun 31 Hydref, 2022
  • Rhagddangosiad Cyntaf Dydd Gwener 4 Tachwedd, 2022
  • Perfformiadau i’r Wasg Dydd Sadwrn 3 Rhagfyr, 2022
  • Perfformiad Terfynol Dydd Sadwrn 31 Rhagfyr, 2022
  • Bydd y Cynllunydd ar yr alwad gyntaf o ddydd Llun 10 Hydref 2022 tan ddiwedd dydd Llun 7 Tachwedd 2022.

    Yna, bydd y Cynllunydd ar yr alwad gyntaf o fore dydd Sadwrn 26 Tachwedd 2022 tan ddiwedd dydd Sadwrn 3 Rhagfyr 2022, gan ei bod yn bosib y bydd angen eich gwasanaethau pan fydd y cynhyrchiad yn dychwelyd o’r daith, yn ystod ymarferion technegol a cyn y perfformiadau i’r wasg yn Stiwdio Theatr y Sherman.

    Cyfrifoldebau
    Bydd disgwyl i’r Cynllunydd Set greu cynllun set a gwisgoedd sy’n gallu mynd ar daith, gyda set sy’n gallu cael ei hadeiladu a’i dymchwel mewn diwrnod, ar gyfer perfformiadau bore a phrynhawn.

    Ffi
    Ffi o £3000 i’w thalu mewn rhandaliadau yn ystod y prosiect. Bydd treuliau bocs model a cherdyn gwyn yn cael eu talu yn ogystal â’r ffi.

    Sut i wneud cais
    Anfonwch CV a llythyr eglurhaol i artistdevelopment@shermantheatre.co.uk erbyn canol dydd, dydd Gwener 24 Mehefin

    Nodwch:

  • Pam fod gennych ddiddordeb mewn gweithio ar y cynhyrchiad.
  • Pam mai dyma’r cyfle cywir ar gyfer eich datblygiad proffesiynol.
  • Eich profiad perthnasol a beth allwch ei gynnig i’r rôl.
  • Dylech hefyd gynnwys dolen neu ffotograff o’r darn o waith cynllunio rydych chi fwyaf balch ohono, a nodwch pam.
  • Rydyn ni’n awyddus i ychwanegu at amrywiaeth ein gweithlu, felly rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn ein tîm ar hyn o bryd yn benodol. Mae ein hadeilad yn hygyrch i gyrraedd Blaen y Tŷ a chefn llwyfan.