Theatr y Sherman

Ymlaen â’r Sioe

Archive

Adolygiad

Gwener 8 - Sadwrn 30 Hydref
6.30pm, 8.00pm

Gwybodaeth Bellach

  • Ofod: Y Stiwdio
  • Seddi: Seddau arddull Cabaret
  • Iaith: Saesneg

Beth ydych chi wedi'i golli fwyaf am theatr fyw? Nosweithiau difyr allan? Rhannu profiad gydag aelodau eraill o'r gynulleidfa? Gwrando ar stori sy'n gafael ynddo chi? Cael eich cludo i fyd arall? Cael lle i feddwl am y byd o'ch cwmpas? Cyfle i gysylltu ag eraill? Chwerthin lond eich bol? Mae Ymlaen â’r Sioe yn cyfuno hyn i gyd a mwy.

Wrth i ni ailagor, roeddem am sicrhau ein bod yn cynnig profiadau sy’n golygu rhywbeth i chi yn Theatr y Sherman. Mae’r ŵyl hon yn cynnwys yr holl bethau rydych chi’n eu caru am Theatr y Sherman: ysgrifennu newydd cyfareddol gan awduron Cymreig a rhai sy’n byw yng Nghymru, gogwydd newydd sbon ar ddramâu clasurol, comedi o’r radd flaenaf, tameidiau bar blasus ac awyrgylch llawn hwyl. Bydd yr holl sioeau yn cael eu cynnal yn y Stiwdio, a fydd yn cael ei thrawsnewid yn ofod ar ffurf cabaret.

Mae Ymlaen â’r Sioe yn cynnwys perfformiadau byr, fel eich bod yn gallu gweld cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Gallwch wylio un sioe yn unig ac yna mynd adref neu aros a mwynhau ychydig o fwyd a gweld sioe arall. Dyma eich ffordd unigryw chi o ddychwelyd i Theatr y Sherman.

Ni allwn aros i’ch croesawu yn ôl i’r Sherman.