Frân Wen yn cyflwyno

Wythnos Yng Nghymru Fydd

Drama Perfformiadau yn Gymraeg

Hygyrch

  • Fri 30 Oct - 2:30pm Captioned
  • Fri 30 Oct - 7:30pm Captioned

Adolygiad

29 a 30 Hyd 2026
7.30yh, 2.30yh

Prisiau

£16-£20; Gostyngiadau £2 off; O Dan 25 Hanner Pris.

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys themâu aeddfed a golygfeydd a allai beri gofid i rai aelodau o’r gynulleidfa. Dysgwch fwy yma.

Mae defnydd o iaith gref, goleuadau sy’n fflachio, synau uchel a niwl.

Mae o wedi gweld y dyfodol. Dwywaith.

Mae Ifan yn byw ar yr ymyl. Yn cadw pawb hyd braich, yn yfed yn galed, yn chwerthin yn uwch na neb arall. Dydy o byth yn edrych yn ôl. Ond mae un person yn aros yn ei feddwl – Mair.

Wrth i storm wleidyddol godi yng Ngogledd Cymru, mae Ifan yn cael ei daflu ymlaen ddegawdau mewn amser. Dwywaith.

Mae un dyfodol yn cynnig Cymru rydd yn llawn cariad a gobaith. Mae’r llall yn fyd llwm heb iaith, ffiniau, a chymuned. Yn y ddau fyd mae Mair. Rhyngddynt mae’r presennol – a rhaid i Ifan ddewis.

Yn llawn cariad, emosiwn a chynnwrf gwleidyddol, mae Wythnos yng Nghymru Fydd, wedi’i ysgrifennu gan Mared Llywelyn Williams a’i chyfarwyddo gan Gethin Evans, yn ail-ddychmygiad beiddgar o glasur Islwyn Ffowc Elis sy’n gofyn pa ddyfodol sy’n cael ei greu gan ein heddiw?

Hygyrch:

Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain: Cathryn McShane-Kouyaté

Disgrifiwr Sain: Rhodri Trefor

Disgrifiad Sain: Dydd Lau 29 Hyd, 7:30pm.

Perfformir yn Gymraeg. Bydd pob sioe yn cynnwys capsiynau Cymraeg a Saesneg.

Os ydych chi’n bwriadau defnyddio’r capsiynau, rydym yn argymell bod chi’n eistedd:
Ar ochr chwith yr awditoriwm: Cymraeg
Ar ochr dde’r awditoriwm: Saesneg

Ar ochr dde’r awditoriwm: Iaith Arwyddion Prydain