Theatr Clwyd

Twelfth Night

Theatr

Ysgrifennwyd gan William Shakespeare

Cyfarwyddwyd gan Juliette Manon

Adolygiad

21 - 23 Mai 2026
Amrywiaeth

Prisiau

£18 - £32

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Saesneg
  • Gofod: Y Brif Theatr

Os mai cerddoriaeth ydi bwyd serch, daliwch ati i’w chwarae…

Comedi o drionglau serch, ffraeo a chastiau direidus.

Mae efeilliaid sydd wedi bod mewn llongddrylliad yn cyrraedd glan mewn gwlad anghyfarwydd ymhell oddi wrth ei gilydd. Gan ddechrau byw eu bywydau newydd, gwahanol iawn, maen nhw’n cael eu denu’n gyflym i fyd lle mae uchelwyr yn dod yn weision a ffrindiau’n dod yn gariadon.

Gan ddehongli stori Shakespeare drwy lens cwiar drwy archwilio siwrnai Cesario, am y tro cyntaf fel cymeriad traws – mae ein cynhyrchiad newydd dyrchafol ni’n dathlu harddwch bod yn ni ein hunain heb ymddiheuro.

Mae comedi fwyaf Shakespeare yn cael ei hysgwyd yn y sioe hwyliog, llawn anhrefn yma.