Theatr Ieuenctid Sherman

Treasure Island

Crëwyd yn y Sherman Theatre

Ysgrifennwyd gan Robert Louis Stevenson

Cyfarwyddwyd gan Timothy Howe

Archive

Adolygiad

28 – 30 Gorffennaf
6.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Oedran: 7+
  • Iaith: Saesneg
Gwybodaeth pwysig

Mae’r sioe hon yn cynnwys synau uchel a niwl.

Dewch ar antur gyffrous gyda'n perfformwyr ieuengaf yr haf hwn.

Bydd y Prif Dŷ yn atseinio ag egni gwyllt wrth i ddwsinau o gyfranogwyr Theatr Ieuenctid y Sherman gamu i’r llwyfan gyda fersiwn newydd hwyliog o Treasure Island.

Mae’r sioe yn ddelfrydol ar gyfer cynulleidfaoedd dros 7 oed, ac mae’r stori antur glasurol hon gan Robert Louis Stevenson yn sicr o fod yn wledd ddifyr yr haf hwn.

Bydd perfformwyr rhwng 8 ac 18 oed ar y llwyfan yn ogystal â’r Sherman Sherbets, ein grŵp ieuengaf, a fydd i’w clywed ar y trac sain.

Addaswyd gan Timothy Howe
Cynllunydd Aled Wyn Williams
Cyfarwyddwyr Cynorthwyol Steve Bennett, Nerida Bradley, Ashley Cummings, Cassidy Howard- Kemp, Sophie Hughes, Mabel Mckeown, Rachel Morgan-Belle, Debbie Riggs & Leigh Woolford