Cyflwynwyd gan Cwmni Richard Burton Coleg Brenhinol Cymru

The Welkin

Theatr

Ysgrifennwyd gan Lucy Kirkwood

Cyfarwyddwyd gan Hannah Noone

Archive

Adolygiad

29-31 Maw
Amrywiaeth

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: 2 awr 45 munud yn cynnwys egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Os gwelwch yn dda, nodwch fod y perfformiad hyn yn cynnwys defnydd dwys o effeithiau mwg a niwl, a defnydd o flodau a phlu go iawn. Hefyd yn cynnwys themâu oedolion, iaith gref a golygfeydd a allai beri gofid i rai aelodau o’r gynulleidfa. Am fwy o wybodaeth, gweler yma.

Mae bywyd un wraig yn nwylo 12 aelod o reithgor llawn menywod yn The Welkin. A fydd cyfiawnder yn trechu?

Cefn gwlad Suffolk, 1759. Mae Sally Poppy wedi’i dedfrydu i’w chrogi am lofruddiaeth ond mae’n honni ei bod yn feichiog. Mae rheithgor o 12 o fenywod lleol wedi ymgynnull i benderfynu a yw’n dweud y gwir a phennu ei thynged.

Gydag awr yn unig i benderfynu, barn yn newid a thyrfa flin yn ymgasglu tu allan, mae’r menywod yn ymgodymu â’u grym newydd a phwysau cyfiawnder. A fyddant yn gwneud y dewis cywir?

I weld y rhaglen ddigidol ar gyfer sioeau Gwanwyn Cwmni Richard Burton, os gwelwch yn dda cliciwch yma.

Capsiynnau
Bydd Erika James yn capsiynnu y perfformiad ar Dydd Iau 30 Maw.