Theatr Ieuenctid y Sherman

The Periodicals

Crëwyd yn y Sherman Theatr

Ysgrifennwyd gan Siân Owen

Cyfarwyddwyd gan Alice Eklund

Archive

Adolygiad

22 - 24 Chwe 2024
7yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: Saesneg
  • Hyd: Tua 45 munud (heb egwyl)
Gwybodaeth Bwysig

Mae’r cynhyrchiad yma yn cynnwys niwl, goleuadau sy’n fflachio a synau uchel.

Annefodol. Emosiynol. Ysbrydoledig

Mae Theatr Ieuenctid y Sherman yn dychwelyd i’r llwyfan gyda The Periodicals.

Wedi’i osod mewn dyfodol dystopaidd, heb fod yn bell o’n byd ni, mae The Periodicals yn dilyn grŵp o bobl ifanc sy’n byw tu hwnt i gymdeithas. Yn benderfynol o osgoi cael eu hanfon nôl i’r ysgol, mae’r Periodicals yn ffurfio eu cymuned amgen eu hunain.

Gan archwilio materion sydd o bwys i bobl ifanc heddiw – o iechyd meddwl a chyfeillgarwch i bwysigrwydd medru lleisio eu barn – mae The Periodicals yn brofiad i’ch syfrdanu hyd y diwedd.

Bydd The Periodicals hefyd yn cael ei berfformio pan fydd Theatr y Sherman yn croesawu Gŵyl NT Connections 2024 rhwng 3 a 5 Ebrill.