Hatch Youth Theatre

The Periodicals

Theatr

Ysgrifennwyd gan Sian Owen

Cyfarwyddwyd gan Cassidy Smith

Archive

Adolygiad

3 Ebr 2024
1.00yp

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg
  • Hyd: 50 munud
Gwybodaeth Bwysig

Mae’r sioe hon yn cynnwys iaith gref.

Perfformir gan Hatch Theatre Group fel rhan o NT Connections 2024

Mae mis Ebrill bob amser yn gyfnod cyffrous yn Theatr y Sherman. Eleni eto, bydd cwmnïau theatr ieuenctid o bob cwr o de Cymru yn ymgynnull yn y Sherman wrth i ni gynnal Gŵyl NT Connections.

I bawb sy’n hoffi theatr, cewch wledd o ysgrifennu newydd wedi’i berfformio gan dalent ifanc ddisglair. Bydd pob cwmni theatr ieuenctid yn cael y cyfle i berfformio, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau. Dewch draw i’r Sherman dros y gwanwyn i brofi dyfodol y theatr.

Darganfyddwch mwy am The Periodicals a berfformir gan Hatch Theatre Company:

Wedi’i osod yn y dyfodol agos – mae criw o bobl ifanc yn byw fel grŵp gwyllt o athrylithoedd technolegol ar ffo, gan fyw ar ffrwyth tir sy’n domen sbwriel. Maen nhw’n sefyll tu hwnt i lygaid yr awdurdodau – yn enwedig yr awdurdodau addysg sy’n ysu i’w dychwelyd yn ôl i’r ysgol gan nad yw pethau’n argoeli’n dda.

Fodd bynnag, mae’r ysgol wedi colli pob atyniad. Yn yr ysgol, mae’r bobl ifanc yn cael eu hanwybyddu a’u diystyru – yn cael eu hystyried yn fwy o drafferth na’u gwerth. Felly nawr, i’r grŵp yma, mae’r ysgol ar ben am byth.