The Mistake

Theatr
Archive

Adolygiad

21 Medi 2023
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Hyd: Tua 80 munud (dim egwyl)
  • Gofod: Stiwdio
Gwybodaeth Pwysig

15+

Rhai disgrifiadau llafar o bobl sydd wedi’u hanafu a phobl sy’n marw.

Wedi llwyddiant yng Ngŵyl Ymylol Caeredin y llynedd, mae’r ddrama newydd ddwys hon gan Michael Mears yn archwilio’r digwyddiadau sy’n ymwneud â’r ‘camgymeriad’ trychinebus a lansiodd ein hoes niwclear.

1942. Ar gwrt sboncen yn Chicago cynhelir arbrawf gwyddonol trawiadol, a fydd, dair mlynedd yn ddiweddarach yn dinistrio dinas ac yn newid y byd – am byth. Dau actor, un Prydeinig, un Siapaneaidd, yn cyflwyno straeon cymhellol gwyddonydd gwych o Hwngari, peilot Americanaidd beiddgar a merch ymroddgar o Siapan, mewn drama am y peryglon sy’n codi pan fydd bodau dynol yn meiddio datgloi pŵer anhygoel natur.

Mae drama un dyn glodwiw Michael, THIS EVIL THING, yn darlunio brwydr gwrthwynebwyr cydwybodol Prydain yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe berfformiodd y ddrama dros 100 o weithiau rhwng 2016 a 2019, gan gynnwys dwy noson yn Stiwdio’r Sherman yn 2017.

Mae THE MISTAKE wedi’i hadrodd trwy lygaid gwyddonydd gwych, peilot beiddgar a merch ymroddgar, ac yn ddrama newydd gymhellol sy’n dangos y peryglon sy’n codi pan fo bodau dynol yn meiddio datgloi pŵer anhygoel natur.