‘Dynion barfog brwnt, mamau sy’n llofruddio, pypedau a phryfed tân a thylwyth teg...Ry’n ni wedi newid rhai enwau ond mae’r stori yr un fath, yn rybudd ar gyfer eich hoes...’
Mae Cwmni Theatr The Bohemians yn falch o gyflwyno ‘The Misadventures of Pinocchio: The Radical Robot Girl!’
Wedi’i gosod mewn Cymru ôl-apocalyptaidd, cawn gyfarfod merch robot radical o’r enw Pinocchio. Mae hi’n byw mewn byncer bach clyd gyda’i thad annwyl Joe. Mae popeth yn normal. Wel, mor normal ag y medrith pethau fod pan mae’r byd wedi dod i ben…Ond un diwrnod, mae Pinocchio yn darganfod rhywbeth fydd yn newid ei bywyd am byth…
Felly, ymunwch â Pinocchio ar ei chyrch peryglus i achub y blaned wrth i The Bohemians gyflwyno eu hathrylith hynod i theatrau ar draws De Cymru y gwanwyn hwn.
Wedi’i hysgrifennu gan Joel Nash a Benji Mowbray ac yn llawn dop o gerddoriaeth byw gwreiddiol, dyma stori dylwyth teg roc-werin ar gyfer yr oes fodern.
8 Mehefin, 2.30yp: Dehongliad BSL gan Cathryn McShane