O’r cwmni arobryn Theatr na nÓg daw sioe newydd yn adrodd hanes gwir un o arwyr bocsio Cymru.
Yng nghymoedd difreintiedig y 1930au, roedd bocsio yn fwy na fath o chwaraeon; roedd yn ffordd allan o dlodi. Dylai Cuthbert Taylor o Merthyr, sydd nawr yn cael ei weld fel un o focswyr orau ei genhedlaeth, fod wedi cael y cyfle i frwydro am deitl Prydeinig, ond cafodd ei wrthod oherwydd lliw ei groen.
“Trwy ei gymysgedd o gelfyddyd ac eiriolaeth, mae’n profi nad yw cydnabod a dysgu o’r gorffennol yn brofiad anghyfforddus na goddefol. Mae hefyd yn ein hatgoffa bod drwg wedi bod ac y bydd drwg yn y byd, ond os ydym yn dilyn ac yn ymladd fel Cuthbert Taylor, bydd yna lawer mwy o wydnwch, gobaith a daioni bob amser.” Molly Stubbs, Nation.Cymru
Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Caerdydd.
- 21 Oct – AD Alistair Sill
- 22 Oct – BSL Nez Parr
- 22 Oct – Captioned (English)
- 22 Oct – Pre show Deaf Theatre Club BSL Claire Anderson
Daw Theatr na nÓg â stori wir y paffiwr chwedlonol o Gymru, Cuthbert Taylor, yn fyw ar y llwyfan fis Hydref, gyda The Fight. Ymunwch â ni yn y Sherman ar gyfer y stori deimladwy ac ysbrydoledig hon am obaith, gwytnwch ac anghyfiawnder.
- Stori wir o Gymru, mae The Fight yn taflu goleuni ar fywyd Cuthbert Taylor, paffiwr dawnus o Ferthyr a gafodd ei wrthod rhag ymladd am deitl Prydain oherwydd lliw ei groen. Stori am dalent, anghyfiawnder a dewrder tawel.
- Pwerus, emosiynol ac wedi’i gwreiddio yn y gwir, nid stori am baffio yn unig mo hon. Dyma stori am ddarganfod y nerth i sefyll yn gadarn yn wyneb gwahaniaethu. Mae’n gofyn i ni feddwl am ba mor bell rydym ni wedi dod a pha mor bell sydd gennym eto i fynd.
- Wedi’i greu gan dîm arobryn o Gymru. Ysgrifennwyd gan Geinor Styles a chyfarwyddwyd gan Kev McCurdy, coreograffydd ymladd llwyfan gyda 35 mlynedd o brofiad. Mae’r cynhyrchiad Theatr na nÓg hwn yn dod â stori arbennig a theatr gorfforol afaelgar at ei gilydd.
- Dyma stori sy’n llawn calon. Wedi’i gosod yng Nghymru’r 1930au, mae The Fight yn dangos caledi’r cyfnod a’r gobaith roedd paffio’n ei gynnig. Mae’n ein hatgoffa ni o’r bobl a frwydrodd am eu lle mewn hanes.
- Mae hwn yn brofiad i bawb. Mae The Fight wedi’i greu i gynulleidfaoedd 9 oed ac yn hŷn