Theatr y Sherman

The Elves and the Shoemaker

Christmas

Ysgrifennwyd gan Katherine Chandler

Cyfarwyddwyd gan Sara Lloyd

Archive

Adolygiad

12 & 13 Tach 2021 (Rhagddangosiadau), 29 Tach - 31 Rhag 2021
10.00yb, 11.00yb, 12.30yp, 1.30yp

Gwybodaeth Bellach

  • Ofod: Y Stiwdio
  • Oed: 3-6
  • Iaith: Saesneg. Gwelir Y Coblynnod a'r Crydd ar gyfer y perfformiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Hyd: 1 awr

Nid yw esgidiau bendibompom yn creu eu hunain wyddoch chi!

Mae Clara’r crydd yn llwglyd ac yn oer. Nid oes unrhyw un eisiau prynu ei hesgidiau.

Perfformiadau o 27 Rhagfyr
Ar ôl edrych yn ofalus iawn ar y sefyllfa yn dilyn y cyhoeddiad ddoe, gyda chalon drom yr ydym wedi gwneud y penderfyniad i ganslo holl berfformiadau The Elves and the Shoemaker / Y Coblynnod a’r Crydd rhwng 27 a 31 Rhagfyr. Mae’n ddrwg iawn gennym ni am y siom. Rydym wedi cysylltu â phawb sydd â thocynnau dros e-bost a byddwn mewn cysylltiad wythnos nesaf i drefnu ad-daliadau. Diolch i chi am eich amynedd ac am eich cefnogaeth barhaus.

Ar gael yn ôl y galw
Mae The Elves and the Shoemaker bellach ar gael yn ôl y galw. Gwyliwch ar-lein ar unrhyw adeg tan 31 Rhagfyr a dewch â’r theatr atoch chi’r Nadolig hwn

Un bore, er syndod iddi, mae’n canfod bod rhywun wedi creu pâr o’r esgidiau mwyaf crand yn ddirgel dros nos. Esgidiau a fydd yn gwerthu’n gyflym iawn. Mae lwc Clara ar fin newid. Pwy ddylai ddiolch iddynt am y newid mawr hwn?

Mae The Elves and the Shoemaker gan Katherine Chandler yn ffordd berffaith i gyflwyno’r plant i hud y theatr.

Rhaid i bob aelod o’r gynulleidfa sy’n 18 oed a hŷn gael a dangos Pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad. Darganfyddwch fwy yma.

Gwisgwch fwgwd trwy gydol eich ymweliad.
Dylai holl aelodau’r gynulleidfa ac ymwelwyr wisgo mwgwd (neu fygydau) trwy gydol eu hymweliad gan gynnwys yn ystod perfformiadau, oni bai eich bod wedi’ch eithrio (ag eithrio pan yn bwyta neu’n yfed yn yr awditoriwm). Nid oes disgwyl i gwsmeriaid y Bar Caffi wisgo mwgwd wrth eistedd wrth fwrdd.

Hwyl Creadigol!

Mae gweithgaredd crefft sy’n galluogi’r plant greu eu gweithdy Coblynnod eu hunain!

Gan ddefnyddio eitemau bob dydd o’ch cartref, dewch o hyd i’ch dawn greadigol a chreu golygfa o siop y crydd sy’n cynnwys coeden côn ddisglair a chorrach personol eich hun. Lliwiwch yr esgidiau a gadewch nhw i’r corrach bach drwg gael adrodd yn ôl i Siôn Corn.

Pecyn Gweithgareddau
Rydym hefyd wedi creu adnodd gweithgareddau i gael pobl ifanc i ymgysylltu ymhellach â’r cynhyrchiad, y cymeriadau, a’r themâu.