Theatr Clwyd yn cyflwyno

The Dark I Swim

Theatre

Ysgrifennwyd gan Rebecca Jade Hammond

Cyfarwyddwyd gan Kate Wasserberg

Adolygiad

13 & 14 Hyd 2026
8yh

Prisiau

£14

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio

Romeo a Juliet. Rose a Jack. Buffy ac Angel. Mae rhai enwau’n cyd-fynd yn berffaith.

Fe dreuliodd Siby 20 mlynedd yn gwarchod yr un pwll yng Nghaerdydd. Wedi’i hamgylchynu gan hen ferched, pobl ddauwynebog ac achubwyr bywyd Gen-Z fydd ddim yn para’r haf. Wedyn mae Cole yn cerdded i mewn. Ifanc, bregus, ac yn llawn cyfrinachau.

 

Ai fo yw Yr Un, neu ddim ond un arall? Ydi eu henwau’n cyd-fynd yn berffaith?

 

Mae Peepshow yn cwrdd â Fleabag yn y gomedi ramantus fudr, ddoniol ac eithriadol dyner yma am ddau berson sy’n boddi yn eu pennau eu hunain – a beth sy’n digwydd pan mae rhywun, o’r diwedd, yn sylwi arnoch chi.

 

Mae pob rhamant wych yn gorffen gyda diweddglo hapus am byth.

Dydi? Dydi?!?

 

Cyfarwyddwyd gan Kate Wasserberg (Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd)

Theatr Clwyd | Mae’r perfformiadau hyn wedi’u gwned yn bosibl trwy gyfraniadau hael gan Philip Carne a Chippy Lane Productions Ltd.